Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Bro Hyddgen

Image of Ysgol Bro Hyddgen

23 Ionawr 2023

Image of Ysgol Bro Hyddgen
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo achos busnes diwygiedig i godi adeilad newydd ar gyfer Ysgol bob oed yng Ngogledd Powys.

Mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen ers 2017, ond bu'n rhaid oedi'r prosiect yn annisgwyl oherwydd methiant y prif gontractwr, Dawnus Construction Ltd.

Lluniwyd Achos Busnes Amlinellol/Achos Amlinellol Strategol newydd gan y cyngor ar gyfer ysgol bob oed newydd sy'n cynnig lle i 540 o ddisgyblion ar safle uwchradd Ysgol Bro Hyddgen i gymryd lle'r adeiladau presennol sydd gan yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd.

Ar ôl ei adeiladu, bydd yr ysgol newydd yn cynnwys cyfleusterau blynyddoedd cynnar, ardaloedd ar gyfer addysg gynradd, uwchradd ac ôl-16, ystafell gymunedol, canolfan ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, ardaloedd llesiant, ynghyd â chae chwarae 3G. 

Gall dyluniad yr adeilad hefyd gynnwys lle ar gyfer llyfrgell gyhoeddus pe bai angen.  Bydd y penderfyniad hwn yn destun ymgysylltiad cyhoeddus, fydd yn digwydd ym mis Chwefror. 

Bydd yr adeilad yn esiampl ragorol o ran adeiladedd amgylcheddol, a hon fydd ysgol bob oed gyntaf y cyngor sy'n defnyddio egwyddorion Passivhaus, gyda'r nod o wireddu Net Sero wrth ei redeg, gyda tharged o <800kg/CO2m2 o garbon ymgorfforedig, a disgwylir i'r ysgol newydd yn agor i ddisgyblion yn 2026

Dywed y Cyng. Pete Roberts, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rwyf yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein cynlluniau ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Bro Hyddgen.

"Credwn y bydd yr opsiwn a ffafrir yn cynnig cyfleusterau addysg rhagorol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr. Mae'r opsiwn hwn dal yn fforddiadwy o safbwynt y cyllid cyfredol sydd ar gael, ac mae'n diogelu'r buddsoddiad a gynllunnir ar gyfer safleoedd ysgol eraill yn y sir."