Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwaith dylunio yn mynd rhagddo i ddatblygu llwybrau teithio llesol yn y Trallwng

Image of a cycle path sign

24 Ionawr 2023

Image of a cycle path sign
Yn dilyn cymeradwyo Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl), gan Lywodraeth Cymru, mae'r gwaith wedi dechrau i ddatblygu dyluniadau ar gyfer gwella darpariaeth teithio llesol ar Stryd Hafren y Trallwng.

Byddai hyn, a ddynodwyd ar MRHTLl gan y gymuned a rhanddeiliaid, yn ffurfio cam cyntaf prosiect ehangach i greu rhwydwaith teithio llesol lleol - gan alluogi ymgymryd â rhagor o deithiau ar droed neu ar feic oddi fewn i'r dref.

Byddai'r llwybr arfaethedig yn rhedeg ar hyd ochr ogleddol Stryd Hafren, o'r orsaf drenau tuag at y bont dros y gamlas. Byddai'r prosiect yn arwain at ledu'r llwybr presennol i ddyfod yn llwybr a rennir gan feicwyr a cherddwyr, a gwelliannau'n cael eu gwneud i'r arwyneb a'r draeniad, gan wella diogelwch i'r holl ddefnyddwyr - ond yn enwedig i deuluoedd a disgyblion sy'n mynd a dod o Ysgol Gymraeg y Trallwng, yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, a chymudwyr sy'n defnyddio'r orsaf drenau. Fel rhan o'r gwaith dylunio, caiff ystyriaeth hefyd ei roi i'r croesfannau.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn glir fod yn rhaid i gerdded a seiclo fod y modd naturiol sy'n cael ei ddewis ar gyfer teithiau byr bob dydd, neu fel rhan o daith hirach ar y cyd â moddau cynaliadwy eraill, a bydd buddsoddiad parhaus i mewn i deithiau llesol ymarferol oddi fewn i Bowys yn ein helpu ni i gyflawni'r weledigaeth hon." Medd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Gwyrddach.

"Nid yn unig yw'r llwybrau hyn yn gwella diogelwch y ffyrdd, i gerddwyr ac i feicwyr, maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i ni gynyddu ein hiechyd a'n llesiant drwy fod yn fwy actif, yn ogystal â chyfrannu at leihau allyriadau ac ymladd yn erbyn yr argyfwng hinsawdd presennol drwy ein galluogi ni i flaenoriaethu cerdded a seiclo, yn hytrach na defnyddio car ar gyfer teithiau byr, lleol."

Mae'r cynghorydd lleol ac Aelod Cabinet Dros Bowys Fwy Diogel, y Cynghorydd Richard Church wedi cael ei galonogi gan yr holl welliannau sy'n cael eu cynllunio ar gyfer yr ardal. "Mae llawer yn digwydd o gwmpas Stryd Hafren a fydd yn dyfod â rhagor o bobl i'r ardal. Y cartref Gofal Ychwanegol yn Neuadd Maldwyn, yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd a'r gwaith i wella'r llyfrgell a'r amgueddfa ger y gamlas. Bydd y gwelliannau hyn, ar y cyd â datblygu darpariaeth teithio llesol, yn gwneud y llwybr yn ddiogel i hen bobl a phobl ifanc fel ei gilydd drwy gysylltu'r cyfleusterau newydd hyn at ganol y dref a'r orsaf reilffordd." 

Pan fydd y gwaith dylunio wedi ei gwblhau, caiff cais am arian ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru (cronfa Teithio Llesol) ac os fydd hynny'n llwyddiannus, bydd gwaith yn dechrau ar y cam adeiladu yn fuan ar ôl hynny.

Bydd yr holl ddyluniadau a'r diweddariadau ar gael ar-lein.