Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Panel Heddlu a Throseddu yn cefnogi praesept arfaethedig 2023/24

Police

27 Ionawr 2023

Police
Mae aelodau Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi cefnogi cynnydd o 7.75% ym mhraesept arfaethedig y Comisiynydd.

Yn ystod cyfarfod cyntaf y panel ar gyfer 2023, a gynhaliwyd ddydd Gwener 27 Ionawr, bu'r aelodau'n trafod y praesept ac yn craffu ar gynlluniau cyllidebol y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mae'r panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor yn ardal yr heddlu a dau aelod annibynnol, ac mae ganddo'r pŵer i gymeradwyo neu roi feto ar braesept arfaethedig yr heddlu.

Ariennir plismona lleol trwy grant gan y Swyddfa Gartref yn ogystal â chyfraniadau gan y cyhoedd drwy'r Dreth Gyngor, a adwaenir fel praesept yr heddlu.

Mae'r praesept yn cyfrif am tua 50% o'r holl refeniw sydd ar gael i'r Comisiynydd. Ynghyd â chyllid y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru, bydd hyn yn darparu cyllideb yr heddlu ar gyfer 2023/24.

Caiff y rhan fwyaf o'r gyllideb ei gwario ar gostau staffio, yn bennaf costau swyddogion heddlu â gwarant, ac mae gan Heddlu Dyfed-Powys dros 1,300 o swyddogion o'r fath ar hyn o bryd. Rhagwelir y bydd gan y llu danwariant o tua £800,000 yn erbyn y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2022/2023, o ganlyniad i fesurau effeithlonrwydd sydd eisoes yn cael eu gweithredu.

Tra bod yr un pwysau chwyddiant yn effeithio ar Heddlu Dyfed-Powys ag yn achos pob sector arall o'r gymdeithas, mae'r cynnydd mewn costau tanwydd a dyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol yn effeithio'n arbennig arno.

Wrth graffu ar gynlluniau cyllidebol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer y flwyddyn i ddod, nododd y Panel sawl ffactor sy'n cynrychioli gwerth am arian o'r praesept, gan gynnwys cynnal y lefelau hanesyddol uchel o swyddogion â gwarant a gyflogir gan y llu; y ffaith bod bodlonrwydd y cyhoedd gyda Heddlu Dyfed-Powys ar y cyfan yn uchel a bod lefelau troseddu yn gyffredinol yn isel.

Y lefel praesept bresennol yn Nyfed-Powys yw'r isaf yng Nghymru o hyd.

Gan ddiolch i'r Comisiynydd a'i Brif Swyddog Ariannol am fod yn agored ac yn dryloywder wrth roi eu cyflwyniad, dywedodd Cadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yr Athro Ian Roffe:

"Mae pawb yn profi effeithiau'r amgylchedd economaidd presennol, gan gynnwys gwasanaeth yr heddlu. Yn dilyn trafodaethau adeiladol rhwng y Panel a'r Comisiynydd Heddlu, mae'r Panel yn cefnogi'r praesept o 7.75% a gynigir gan y Comisiynydd. Dylai hyn ganiatáu adnoddau digonol i'r Prif Gwnstabl gynnal heddlu effeithlon ac effeithiol yn Nyfed-Powys."

Mae'r cyfarfodydd yn agored i'r wasg a'r cyhoedd, ac os cânt ganiatâd ymlaen llaw gan y Cadeirydd, gall pobl ofyn cwestiynau neu wneud datganiad ynghylch mater sy'n cael ei ystyried gan y panel, ac eithrio materion personél.

Ewch i www.panelheddluathroseddudp.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ei aelodaeth, dyddiadau cyfarfodydd sydd ar y gweill, agendâu a dolenni gweddarlledu, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau i'r Panel eu rhoi gerbron y Comisiynydd.