Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwnewch ailgylchu'n un o'ch addunedau Blwyddyn Newydd

Image showing a recycling icon

30 Ionawr 2023

Image showing a recycling icon
Bwyta'n iach, cadw'n heini, darllen mwy o lyfrau ... beth bynnag rydych yn mynd i'r afael â fe'r mis Ionawr hwn, rydym hefyd yn gofyn i chi ychwanegu 'ailgylchu' at eich rhestr o addunedau Blwyddyn Newydd.

Mae ymchwil yn awgrymu y bydd bron pob un ohonom wedi rhoi'r gorau i'n haddunedau Blwyddyn Newydd gwreiddiol erbyn hyn, felly hoffem i chi ystyried mabwysiadu addewid newydd a hawdd i 'ailgylchu' mwy yn 2023. Trwy addo gwneud rhai newidiadau cadarnhaol, fel ailgylchu mwy, gallwn nid yn unig deimlo'n well gyda  mwy o reolaeth dros ein gweithredoedd ein hunain, ond hefyd gwneud gwahaniaeth mawr i'n hamgylchedd.

"I lawer ohonon ni mae ailgylchu yn ailnatur bellach, dydyn ni ddim yn meddwl amdano ddwywaith,' meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Mewn gwirionedd, mae dinasyddion Cymru ymysg rhai o'r ailgylchwyr gorau yn y byd, gyda thrigolion Powys yn ailgylchu tua 68.5% o'u gwastraff ar hyn o bryd.

"Fodd bynnag, mae targedau newydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni wneud yn well fyth, ac erbyn 2025 rhaid i ni gyrraedd targedau o 70% ar gyfer yr holl sir. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni gyd ymdrechu i leihau faint o wastraff ry'n ni'n ei daflu a sicrhau ein bod yn ailgylchu cymaint ag y gallwn ni.

"Trwy aros yn driw i ddywediad 'lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu' dylen ni i gyd fedru aros ar y llwybr iawn a gwneud ein rhan i fynd I'r afael a'r argyfwng hinsawdd presennol. Dyna rywbeth positif i godi'r galon ar ddechrau blwyddyn newydd eleni."

Dyma ychydig o gyngor call i helpu i chi fwrw iddi i ffordd o fyw mwy cynaliadwy y byddwch yn gweld budd mawr ohono:

Lleihau: Pan ry'ch chi'n gwneud eich siopa bwyd, dewiswch gynnyrch sy'n cynnwys llai o ddeunydd pacio, neu becynnau sy'n fwy cynaliadwy megis ffrwythau a llysiau rhydd yn lle eitemau sydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw. Gallwch chi leihau faint o wastraff bwyd ry'ch chi'n ei greu trwy ddefnyddio bwyd dros ben mewn cawl cartref a phrydau eraill. Mae ryseitiau hyfryd i'w cael ar y wefan yma: www.lovefoodhatewaste.com

Ailddefnyddio: Dewiswch botel ddŵr y gallwch ei defnyddio dro ar ôl tro i helpu i leihau'r nifer o boteli neu gwpanau untro ry'ch chi'n eu defnyddio. Meddyliwch am brynu eitemau ail law yn lle rhai newydd, a gwerthu neu roddi eitemau nad ydych yn eu defnyddio bellach yn lle'u taflu.

Ailgylchu: Gwnewch bob ymdrech i ailgylchu cymaint o'ch gwastraff cartref ag y bo modd. Mae'n syndod faint o bethau y gallwch chi eu hychwanegu at eich blychau ailgylchu ar gyfer y casgliad wythnosol. Os nad ydych yn siŵr a oes modd ei ailgylchu ai peidio, edrychwch ar ein canllaw hwylus ar-lein: A - Y o wastraff ac eitemau i'w hailgylchu 

"Rydym eisoes yn gwybod ein bod yn sir o ailgylchwyr cydwybodol sy'n ymfalchïo'n fawr yn gwneud ein rhan dros yr amgylchedd, ac nid oes amheuaeth y byddwn gyda'n gilydd yn parhau i wneud pob ymdrech i gynyddu ein hailgylchu ymhellach ac adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy i'r cenedlaethau sydd i ddod." ychwanegodd y Cynghorydd Charlton. "Fodd bynnag, mae ffigyrau Llywodraeth Cymru'n awgrymu bod dal i fod lle i wella, gydag oddeutu 36% o ysbwriel y cartref dros ben sy'n cael ei daflu'n cynnwys gwastraff y gellir ei ailgylchu o ymyl y ffordd, gyda dros 21% yn cynnwys gwastraff bwyd.

"Dychmygwch faint o wahaniaeth y gallen ni ei wneud i'n cyfraddau ailgylchu, a'r amgylchedd pe baen ni i gyd yn ychwanegu ailgylchu at ein rhestr o addunedau Blwyddyn Newydd!"

I gael rhagor o fanylion am yr hyn y gellir ei ailgylchu ac na ellir ei ailgylchu trwy eich casgliadau ailgylchu wythnosol ac yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff o'r Cartref, ewch i Biniau, sbwriel ac ailgylchu