Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Rhent a Thaliadau Gwasanaeth - Cwestiynau ac Atebion

Pam mae'r Cyngor wedi codi'r rhent ar gyfer 2025-2026?

Wrth osod rhenti mae'n ofynnol ystyried darpariaethau Safon Rhent a Thâl Gwasanaeth Llywodraeth Cymru 2020-2025 ac ym mis Hydref 2024 cadarnhaodd Llywodraeth Cymru mai 2.7% oedd y cynnydd mwyaf yn y rhent ar gyfer tai cymdeithasol.

Mae Cynllun Busnes HRA y Cyngor wedi cael prawf straen i weld pa newidiadau mewn rhenti a thaliadau gwasanaeth sydd angen eu gwneud i ganiatáu iddo barhau i fod yn hyfyw, cynnal safonau hanfodol ar gyfer cartrefi sy'n bodoli eisoes a bod â'r gallu i gynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy sydd ar gael ledled Powys.

Gan ystyried yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda'r Panel Craffu Tenantiaid, y casgliad yw bod angen cynnydd o 2.7% mewn rhent er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth Tai yn gynaliadwy ac yn gallu darparu cartrefi a gwasanaethau i denantiaid y presennol a'r dyfodol.

Sut penderfynodd y Cyngor ar y newid i fy rhent?

Wrth ystyried y cynnydd, ystyriodd y Cyngor bwysau chwyddiant a chynnydd mewn costau yn enwedig llafur a deunyddiau, nid yw'r cynnydd o 2.7% yn cwmpasu'r holl gynnydd mewn costau. Ystyriwyd fforddiadwyedd tenantiaid o'r holl gostau byw mewn eiddo, gan gynnwys, er enghraifft, rhent, taliadau gwasanaeth a chostau ynni.

Mae'r Panel Craffu Tenantiaid hefyd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau ynghylch gosod rhenti ar gyfer 2025-2026.

O 1 Ebrill 2025 ymlaen, bydd y rhent cyfartalog ym Mhowys yn cynyddu 2.7% ar gyfer pob un o'r 5,548 o gartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor ac eithrio taliadau gwasanaeth.

Caiff taliadau gwasanaeth a godir ar denantiaid Cyfrif Refeniw Tai eu diwygio o 1 Ebrill 2025 ymlaen i ganiatáu i'r Cyngor adennill y gost a ysgwyddir wrth ddarparu'r gwasanaethau hyn.

Cynyddir rhenti garej ym Mhowys o Ebrill 1af 2025 o £14.65 i £15.05 yr wythnos (£18.06 i bobl nad ydynt yn denantiaid sy'n destun TAW)

Mae taliadau lleiniau garej, oni bai eu bod wedi'u cwmpasu gan gyfradd sefydlog y cytunwyd arni ar adeg gosod, o 1 Ebrill 2025 ymlaen wedi cynyddu o £186.29 i £191.32 am y flwyddyn.

Codir tâl meddiannaeth wythnosol o 2.7% ar gyfer lleiniau Sipsiwn a Theithwyr o 1 Ebrill 2025, a'r rhent cyfartalog yw £125.39.

Bydd taliadau rhent a gwasanaethau eraill, na nodir uchod, a ddaw i rym o 1 Ebrill 2025 ymlaen yn cynyddu 2.7%.

Pam bod fy nhâl gwasanaeth wedi newid?

Mae taliadau gwasanaeth yn seiliedig ar y gost wirioneddol o ddarparu gwasanaethau ychwanegol i'ch cartref yn ychwanegol at ddarpariaeth sylfaenol cynnal a chadw, rheoli a buddsoddiad hirdymor.

Mae'r costau hyn yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, felly rydym yn newid y tâl gwasanaeth i gyfateb â'r gost o ddarparu'r gwasanaethau hyn.

Pam ddylwn i dalu tâl gwasanaeth am lifft nad wyf byth yn ei ddefnyddio?

Darperir lifftiau i bawb mewn blociau i'w defnyddio. Mae'r tâl gwasanaeth yn talu am y gost o ddarparu a chynnal a chadw'r lifft, y gall unrhyw denant ei ddefnyddio. Pan fo bloc yn elwa o lifft disgwylir i'r holl aelwydydd gyfrannu at y gost o ddarparu'r cyfleuster pwysig hwn.

Rwy'n talu fy ardrethi dŵr felly pam mae'n rhaid i mi dalu tâl gwasanaeth am garthffosiaeth i'r Cyngor?

Dim ond ar gyfer cyflenwi dŵr ffres ac nid ar gyfer carthffosiaeth y mae'r cyfraddau dŵr. Caiff eich carthffosiaeth ei phrosesu drwy system sy'n eiddo i'r Cyngor, nid y cwmni dŵr. Mae angen i'r Cyngor adennill costau darparu'r gwasanaeth hwn i chi.

Nid wyf yn gallu fforddio talu fy rhent - beth gallaf ei wneud?

Mae rhenti'r cyngor ymhlith yr isaf ym Mhowys - ac mae ein holl eiddo'n cael eu gosod drwy Gontract Meddiannaeth Ddiogel.

Mae hynny'n golygu, cyn belled â'ch bod yn talu eich rhent ac yn cadw at amodau eich contract, fod gennych sicrwydd deiliadaeth cyhyd â'ch bod am aros yn eich cartref. Fodd bynnag, rydym yn deall bod adegau pan mae'n anodd talu biliau fel rhent.

Os ydych chi'n meddwl na fyddwch yn gallu talu eich rhent, ffoniwch Un Rhif Tai sef 01597 827464 cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gallu rhoi cyngor i chi ar sut i osgoi mynd i ôl-ddyledion rhent.

Mae gennym hefyd dîm o Swyddogion Cymorth Ariannol a all helpu pobl i reoli eu harian a, lle y bo'n bosibl, hawlio cymorth gan y system nawdd cymdeithasol - er enghraifft Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai.

Rydym ni yma i helpu felly peidiwch ag oedi i'n galw ni os ydych chi'n poeni am ba reswm bynnag sy'n eich poeni ynghylch gwneud eich taliadau rhent.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu