gwelededd ddewislen symudol Toggle

Rhent a Thaliadau Gwasanaeth - Cwestiynau ac Atebion

Pam mae'r Cyngor wedi codi'r rhent ar gyfer 2023-2024?

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi grantiau i'r Cyngor i helpu adeiladu cartrefi newydd ac i ategu rhaglen genedlaethol Safonau Ansawdd Tai Cymru.

Er hynny, nid ydym yn derbyn unrhyw gymhorthdal gan y llywodraeth ar gyfer gwasanaethau dydd i ddydd ar gyfer ein tenantiaid. Mae'n rhaid talu am bopeth a wnawn yn ddyddiol, megis atgyweiriadau a gosod cartrefi, allan o'r rhent a dderbynnir gennych chi. Er hynny, mae costau'n cynyddu bob blwyddyn, er enghraifft mae costau deunyddiau adeiladu'n cynyddu drwy'r amser.

Mae hynny'n golygu bod yn rhaid cynyddu'r rhent hefyd er mwyn talu'r costau ychwanegol hyn. 

Mae'r rhent hefyd yn helpu talu costau benthyg ar gyfer gwelliannau mawr, megis ystafelloedd ymolchi, ceginau a ffenestri newydd.

Sut penderfynodd y Cyngor ar y newid i fy rhent?

Mae cynnydd rhent eleni wedi ystyried cydymffurfio â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhent Tai Cymdeithasol, ac mae hefyd wedi ystyried fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid o ran yr holl gostau sydd ynghlwm wrth fyw mewn eiddo, gan gynnwys er enghraifft y rhent, taliadau gwasanaeth a chostau ynni.

Hefyd mae'r Panel Craffu Tenantiaid wedi bod yn rhan o'r trafodaethau o ran gosod rhent ar gyfer 2023-2024.

O 3ydd Ebrill 2023, bydd rhent cyfartalog ym Mhowys yn cynyddu 5.36% ar gyfer pob un o'r 5,500 cartref sy'n eiddo i'r Cyngor, heblaw am daliadau gwasanaeth.

Caiff taliadau gwasanaeth a godir ar denantiaid y CFT (Cyfrif Refeniw Tai) eu diwygio o 3ydd Ebrill 2023 er mwyn caniatáu i'r Cyngor adfer y gost sy'n gysylltiedig â darparu'r gwasanaethau hyn.

Y gost wythnosol ar gyfer Llinell Ofal Powys, o 3ydd Ebrill 2023, fydd £1.21 yr wythnos.

O 3ydd Ebrill 2023, bydd cost rhentu garej ym Mhowys yn cynyddu o £12.89 i £13.73 yr wythnos (£16.48 ar gyfer unigolion nad ydynt yn denantiaid, fydd yn destun TAW)

Bydd taliadau llain garej, oni bai y bydd cyfradd benodol a gytunwyd adeg ei osod yn berthnasol, o 3ydd Ebrill 2023 yn cynyddu o £163.93 i £174.59 y flwyddyn.

Bydd y gost meddiannu wythnosol o 3ydd Ebrill 2023, ar gyfer lleiniau Sipsiwn a Theithwyr yn codi 5.36%; bydd y rhent cyfartalog yn £114.42.

Bydd cynnydd o 5.36% mewn rhenti a thaliadau gwasanaeth eraill, nas nodir uchod, o 3ydd Ebrill 2023.

Pam bod fy nhâl gwasanaeth wedi newid?

Seilir taliadau gwasanaeth ar wir gost darparu gwasanaethau atodol i'ch cartref sy'n ychwanegol i'r ddarpariaeth sylfaenol o ran gwaith cynnal a chadw, rheoli, a buddsoddiad hirdymor. Mae'r costau hyn yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, felly byddwn yn newid y tâl gwasanaeth i gyfateb i'r gost o ddarparu'r gwasanaethau hyn.

Seilir y taliadau a gyfrifwyd ar gyfer 2023-24 ar gostau gwirioneddol oedd yn berthnasol ar gyfer y cyfnod 2021/2022.

Pam fy mod i'n talu tâl gwasanaeth ar gyfer lifft nad wyf fyth yn ei ddefnyddio?

Darperir lifftiau mewn blociau i bawb eu defnyddio. Mae'r tâl gwasanaeth yn talu'r gost o ddarparu a chynnal a chadw'r lifft, a gall unrhyw denant ei ddefnyddio. Os bydd lifft ar gael mewn bloc, disgwylir i'r holl gartrefi yno gyfrannu at y gost o ddarparu'r cyfleuster pwysig hwn.

Rwyf yn talu trethi dŵr, felly pam mae gofyn imi dalu tâl gwasanaeth i'r Cyngor am garthffosiaeth?

Mae'r trethi dŵr ar gyfer cyflenwi dŵr ffres yn unig, ac nid ar gyfer carthffosiaeth. Caiff eich carthffosiaeth ei brosesu trwy system sy'n eiddo i'r Cyngor, nid y cwmni dŵr. Mae angen i'r Cyngor adfer y gost o ddarparu'r gwasanaeth hwn ichi.

Nid wyf yn gallu fforddio talu fy rhent - beth gallaf ei wneud?

Mae rhenti'r Cyngor ymhlith yr isaf ym Mhowys - a chaiff ein holl eiddo eu gosod trwy Gontract Meddiannaeth Diogel, sydd o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn disodli'r denantiaeth ddiogel a ddefnyddiwyd gynt. 

Mae hyn yn golygu, mor bell â'ch bod yn talu'ch rhent ac yn glynu wrth amodau'ch contract, mae gennych sicrwydd o safbwynt meddiannaeth mor bell â'ch bod am aros yn eich cartref. Er hynny, byddwn yn deall y bydd adegau efallai, pan fydd hi'n anodd talu biliau megis rhent.

Os byddwch yn meddwl na fyddwch yn gallu talu'ch rhent, cysylltwch â'r Un Rhif Tai ar 01597 827464 cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gallu rhoi cyngor ichi ar sut i osgoi mynd i ôl-ddyledion rhent. Hefyd mae gennym dîm o Swyddogion Cymorth Ariannol sy'n gallu helpu pobl i reoli eu harian, a ble fo'n bosibl, hawlio cymorth drwy'r system nawdd cymdeithasol - megis Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai.

Rydym yma i'ch helpu, felly peidio ag oedi ein ffonio os byddwch yn poeni am dalu eich rhent, beth bynnag fo'r rheswm.