Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Darganfod Ffliw Adar ar safle ym Mhowys

Image of a chicken

8 Chwefror 2023

Image of a chicken
Cadarnhawyd fod achos o'r Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N1, a elwir fel arall yn ffliw adar, ar safle ger Y Drenewydd, yn ôl y Cyngor Sir.

Cyhoeddwyd Parth dan Reolaeth (Monitro) Adar Caeth 3km (Ffliw Adar), neu barth CBMCZ, o gwmpas y safle heintiedig, er mwyn cyfyngu'r risg o'r haint yn lledu.

O fewn y parth hwn, mae cyfyngiadau ar symud a chasglu adar, ac mae'n rhaid datgan unrhyw safle sy'n cadw adar.

Yn ôl y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys fwy Diogel: "Mae'n hanfodol fod unrhyw un sy'n cadw adar yn aros yn wyliadwrus, ac yn sicrhau eu bod yn arfer y lefelau uchaf o ran bioddiogelwch.

"Mae'n bwysig hefyd nad yw pobl yn cyffwrdd ag neu'n casglu unrhyw adar sâl neu adar sydd wedi marw er mwyn osgoi lledu'r feirws.

"Y cyngor o safbwynt iechyd cyhoeddus yw taw risg isel iawn sydd i iechyd bodau dynol a chyngor cyrff safonau bwyd yw bod ffliw adar yn peri risg isel iawn o safbwynt bwyd ar gyfer defnyddwyr y DU."

Cyfrifoldebau pobl sy'n cadw adar:

  • Dylai unrhyw un sy'n cadw adar fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r haint megis cynnydd yn nifer yr adar sy'n marw, trafferthion anadlu, a gostyngiad yn y dŵr sy'n cael ei yfed, neu nifer yr wyau sy'n cael eu dodwy.
  • Dylech gysylltu â'r milfeddyg yn y lle cyntaf os bydd eich adar yn sâl.
  • Os ydych chi neu'ch milfeddyg yn amau y gall ffliw adar fod yn achos y salwch ymhlith eich adar, mae'n rhaid ichi, yn ôl y gyfraith, hysbysu'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Bydd hyn yn arwain at ymchwiliad i'r haint gan filfeddygon AIAPh.

Mae'n rhaid ichi arfer mesurau bioddiogelwch llym er mwyn atal i unrhyw ddeunyddiau, offer, cerbydau, dillad, bwyd neu ddeunydd gwely a all fod yn heintus oherwydd cysylltiad gydag adar gwyllt, ddod i'ch safle.

Os byddwch yn dod ar draws adar dŵr sydd wedi marw (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu unrhyw adar gwyllt eraill sydd wedi marw, megis gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech hysbysu llinell gymorth Defra drwy ffonio 03459 33 55 77.

I gael y newyddion diweddaraf ar y Ffliw Adar, ewch i  https://www.llyw.cymru/ffliw-adar-y-diweddaraf