Ymrwymiad cyflog byw I brentisiaid
Translation Required:
8 Chwefror 2023
Daw'r cytundeb yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau y mae Cyngor Sir Powys yn ei chefnogi.
Yn y 12 mis diwethaf, mae'r Cyngor wedi cynnig cyfleoedd i 10 prentis ar draws amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys peirianneg, addysg, gofal plant, TGCh ac eiddo, ac yn cynllunio darparu nifer mwy yn y dyfodol.
Bydd cytundeb yr wythnos hon yn golygu y bydd y gyfradd fesul awr i brentisiaid yn cynyddu i £10.90 yr awr o fis Ebrill 2023.
Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn gyfradd bob awr sy'n seiliedig ar gostau byw ac mae'n cael ei osod yn annibynnol. Mae'n cael ei dalu'n wirfoddol i gyflogeion gan dros 10,000 o gyflogwyr yn y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Gysylltiedig: "Gall prentisiaethau gynnig llwybr gyrfa gwych i unigolion a galluogi ein sefydliad i ddatblygu gweithlu talentog gyda sgiliau sy'n barod ar gyfer y dyfodol.
"Talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yw'r peth cywir i'w wneud i brentisiaid sy'n wynebu'r un costau byw â phawb arall ac rydym yn falch iawn o wneud yr ymrwymiad hwn."
Mae'r Cyngor wedi bod yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel isafswm i'r holl staff dros 18 oed sy'n derbyn tâl uniongyrchol ers peth amser ac ail-gadarnhawyd yr ymrwymiad hwn yr wythnos hon. Bydd nawr yn datblygu cynigion i gael ei achredu fel Cyflogwr Cyflog Byw yn y dyfodol.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn prentisiaeth yng Nghyngor Sir Powys ymuno â'r Gronfa Talent Prentisiaethau a chofrestru eu diddordeb ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol. Ewch i https://cy.powys.gov.uk/swyddi i gael mwy o fanylion.