Helpu cyn-filwyr i gyflawni eu potensial y tu allan i'r Lluoedd Arfog
10 Chwefror 2023
Bwriad y cynllun yw helpu cyn-filwyr milwrol i gyflawni eu potensial mewn bywyd sifil drwy helpu i gael gwared ar rwystrau wrth ddod o hyd i gyflogaeth sifil.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Mae'r Cyngor Sir wedi bod yn gefnogwr i'r lluoedd arfog ers amser maith, ond mae'r cynllun hwn yn mynd uwchlaw a thu hwnt i'n Cyfamod Lluoedd Arfog gyda chymorth ymarferol i gyn-filwyr.
"Rydym yn gwybod y gall dod o hyd i rôl mewn bywyd sifil fod yn brofiad heriol ac rwy'n falch iawn y gallwn warantu cyfweliad ar gyfer cyn-filwyr fel rhan o'n proses recriwtio arferol.
"Mae cyn-filwyr yn cynnig cronfa o dalent gyda sgiliau trosglwyddadwy ar adeg pan mae'r cyngor yn ceisio cryfhau ei weithlu. Gallwn helpu cyn-filwyr i ddod o hyd i waith ystyrlon a denu ymgeiswyr ar gyfer ein swyddi gwag - mae'n sefyllfa lle mae pawb yn ennill.
"Yn ddiweddar, rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda'r Career Transition Partnership i gefnogi'r fenter hon ac erbyn hyn mae pob swydd wag priodol yn cael ei hysbysebu ar y safle hwn," ychwanegodd.