Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Pweru'r Chwe Gwlad eleni gyda'ch gwastraff bwyd, a helpu Cymru i fod y gorau yn y byd

Image of a egg shell as a rugby ball to promote food recycling

13 Chwefror 2023

Image of a egg shell as a rugby ball to promote food recycling
Mae pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni'n mynd rhagddi, ac mae ymchwil diweddaraf Cymru yn Ailgylchu wedi datgelu bod pobl Cymru'r un mor angerddol dros ailgylchu ag y maen nhw dros y gêm.

Rydyn ni ar frig y gynghrair gyda'n hailgylchu - ni yw'r genedl orau yn y Deyrnas Unedig, yr ail yn Ewrop, a'r drydedd yn y byd. Mae bron 90% o bobl Cymru'n teimlo balchder wrth weld Cymru'n arwain y gad ac, yn union fel y rygbi, mae mwy nag 80% yn deud bod ailgylchu'n rhan bwysig o'u hunaniaeth.

Mae Cyngor Sir Pows yn cefnogi ymgyrch gwych Cymru yn Ailgylchu i gael Cymru i rif un yn y byd, ac un o'r ffyrdd hawsaf i chi chwarae eich rhan yw drwy ailgylchu eich holl wastraff bwyd. Mae tua chwarter yr hyn sy'n cyrraedd y bin sbwriel cyffredinol yn wastraff bwyd, felly mae llawer mwy y gallwn ei wneud.

"Mae pobl Powys eisoes yn profi i fod yn ailgylchwyr ymroddedig, ond mae wasted lle i wella" meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Rydyn ni fel sir yn ailgylchu dros 68% o'n gwastraff, ond hoffem ofyn i chi i gyd wneud ymdrech ychwanegol i ailgylchu mwy o'n gwastraff bwyd bob wythnos ac i helpu'n uniongyrchol i frwydro yn erbyn effeithiau newid hinsawdd."

Byddwch nid yn unig yn helpu Cymru gyrraedd y brig, byddwch hefyd yn creu ynni, sydd â'r potensial i bweru unrhyw beth, o oleuadau Stadiwm Principality i'r oergell sy'n cadw eich cwrw'n oer ar gyfer y gêm. Mae'n wir, yng Nghymru, rydyn ni hefyd yn arwain y gad wrth greu ynni adnewyddadwy gan ddefnyddio gwastraff bwyd wedi'i ailgylchu, sy'n helpu i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil.

Felly, p'un ai gartref ar y soffa, yn y dafarn leol gyda'ch ffrindiau, neu'n eistedd yn y standiau yn Stadiwm Principality fyddwch chi, pan ddaw amser chwythu'r chwiban, cofiwch yr holl fuddion all eich gwastraff bwyd eu rhoi i'ch profiad o'r Chwe Gwlad.

Dyma chwe ffordd y gall ailgylchu eich gwastraff bwyd helpu i gefnogi Cymru yn y Chwe Gwlad:

  1. Pweru llifoleuadau Stadiwm Principality - Bananas sy'n pweru'r chwaraewyr, gall y crwyn bweru'r stadiwm. Pe byddai pawb yng Nghymru'n ailgylchu 1 croen banana, byddai'n creu digon o ynni i bweru llifoleuadau Stadiwm Principality am bron i 10 diwrnod.
  2. Pweru set deledu gartref - Gallai 47 o fagiau te wedi'u hailgylchu greu digon o drydan i bweru set deledu am 80 munud - digon o amser i wylio dau hanner un o gemau'r Chwe Gwlad!
  3. Gwylio'r gêm ar eich ffôn - Gall ailgylchu 2 groen banana wefru 3 ffôn clyfar yn llawn. Mae hynny'n fwy na digon i wylio sawl gêm.
  4. Pweru oergell i oeri'r cwrw - Byddai llond cadi o wastraff bwyd yn cynhyrchu digon o drydan i bweru oergell am 18 awr - a dyna'ch cwrw'n oer neis ar gyfer y gêm y penwythnos hwn!
  5. Pweru set y DJ yn y noson allan ar ôl y gêm - Cychwyn allan i'r clybiau ar ôl y gêm? Gallai dim ond 7½ cadi o wastraff bwyd wedi'i ailgylchu gynhyrchu'r trydan i bweru set DJ am awr gyfan!
  6. Pweru'r tegell fore trannoeth - Gallai ailgylchu dim ond 6 bag te greu digon o drydan i ferwi'r tegell i wneud eich disgled yn y bore.

Fe wnaethom ailgylchu digon o wastraff bwyd y llynedd i bweru mwy na 10,000 o gartrefi, ond pe byddai'r gwastraff bwyd a gafodd ei daflu i'r bin sbwriel cyffredinol wedi cael ei ailgylchu hefyd, buasem wedi gallu pweru tua 7,500 yn rhagor o gartrefi.

Felly cofiwch ailgylchu eich holl wastraff bwyd na ellir ei fwyta - gellir ailgylchu plisg wyau, esgyrn, bagiau te, a chrafion ffrwythau a llysiau - a dewch inni groesi'r llinell gydag ailgylchu gwastraff bwyd y tymor rygbi hwn.

Ewch draw i wefan Cymru yn Ailgylchu i ddarganfod holl bŵer eich ailgylchu gwastraff bwyd: https://www.walesrecycles.org.uk/cy/bydd-wych-ailgylch