Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sefydlu tudalen wybodaeth am ddiogelu

Image of a pair of glasses on a table and four hands forming a circle around a paper cutout of a family of four.

13 Chwefror 2023

Image of a pair of glasses on a table and four hands forming a circle around a paper cutout of a family of four.
Mae tudalen wybodaeth am ddiogelu wedi cael ei chreu gan y cyngor sir fel rhan o'i ymdrechion i sicrhau fod preswylwyr Powys yn cael eu diogelu rhag niwed a cham-drin.

Mae Cyngor Sir Powys wedi sefydlu'r dudalen bwrpasol wrth iddo geisio cryfhau ei drefniadau diogelu corfforaethol yn dilyn adolygiad gan Archwilio Cymru y llynedd.

Ymhlith yr adrannau ar y dudalen wybodaeth mae:

  • Cyfrifoldebau staff a chynghorwyr
  • Manylion cyswllt er mwyn adrodd yn ôl am bryderon diogelu
  • Polisi Diogelu Corfforaethol y cyngor gan gynnwys crynodeb o'r polisi
  • Gwybodaeth am lywodraethiant

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Diogel ac Aelod Arweiniol dros Ddiogelu: "Rydym yn ymroddedig i fodloni'r holl argymhellion a amlinellwyd gan Archwilio Cymru yn dilyn eu hadolygiad a diogelu'r gwelliannau i sicrhau fod y trefniadau sydd gennym yn eu lle yn cadw ein preswylwyr yn ddiogel rhag niwed a cham-drin.

"Mae gan bob aelod o staff a chynghorydd gyfrifoldeb dros sicrhau fod y bobl maen nhw'n delio â nhw wedi eu diogelu rhag niwed a cham-drin. Mae angen iddyn nhw hefyd wybod sut i adnabod pobl a allai fod mewn perygl ac yna hysbysu'r bobl iawn cyn gynted â phosibl. 

"Wrth ddatblygu'r dudalen bwrpasol hon am ddiogelu, bydd staff yn cael cymorth i ddeall eu rolau a'u cyfrifoldebau wrth helpu i gadw pobl Powys yn ddiogel rhag niwed a cham-drin."

"Fodd bynnag, mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb ac mae gan bob un ohonom yn y wlad hon gyfrifoldeb dros gadw pobl yn ddiogel rhag niwed a cham-drin.

"Mae ein tudalen ddiogelu yn cynnwys manylion cyswllt pwysig i breswylwyr adrodd yn ôl am unrhyw bryderon sydd ganddynt am ddiogelwch plentyn, person ifanc neu oedolyn."

Gellir gweld y dudalen benodol ar ddiogelu yma Diogelu Corfforaethol