Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Bannau Brycheiniog yn dathlu degawd o dywyllwch

Image of the night sky above the Brecon Beacons

13 Chwefror 2023

Image of the night sky above the Brecon Beacons
Mae Cyngor Sir Powys yn falch o gydweithio gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn ymuno â nhw i ddathlu 10 mlynedd o fod yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol.

Oherwydd lefelau isel o lygredd goleuni, cafodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei wobrwyo gyda statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn 2013, gan ei wneud yn un o'r lleoedd gorau yn y byd i syllu ar y sêr. 

I ddathlu deng mlynedd o awyr dywyll, mae'r Parc Cenedlaethol yn gobeithio gwneud i'r sêr ddisgleirio hyd yn oed yn fwy disglair drwy ofyn i bawb ymuno â nhw i ddiffodd yr holl oleuadau nad ydynt yn hanfodol rhwng 19:30 a 20:30 ar nos Wener 17 Chwefror,

Bannau Brycheiniog oedd y gyrchfan Gymreig gyntaf i dderbyn statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol a dim ond y pumed yn y byd i gael ei ddynodi felly. Mae'r llygredd golau isel yn yr ardal nid yn unig yn wych ar gyfer syllu ar y sêr, ond mae hefyd yn hanfodol i fywyd gwyllt nosol a lles dynol, drwy gadw ein holl glociau mewnol yn gweithio fel arfer.

Meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach a chynghorydd lleol Aberhonddu: "Mae byw yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yma ym Mhowys yn wych ac rwyf wrth fy modd yn ei ddarganfod gyda fy nghi. Mae'r ardal nid yn unig yn syfrdanol yn ystod y dydd, ond diolch i statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol y Parciau Cenedlaethol, mae gennym olygfa anhygoel o awyr y nos hefyd.

"Fel cyngor byddwn yn ymuno â'r dathliadau 10 mlynedd ar ddydd Gwener 17 Chwefror drwy ddiffodd yr holl oleuadau nad ydynt yn hanfodol yn ein hadeiladau yn Aberhonddu a'r cyffiniau, gan gynnwys Y Gaer, yng nghanol y dref.

"Hoffem annog pawb i gymryd rhan a diffodd y goleuadau am awr o 19:30 ac i fwynhau syllu ar y sêr."

I ddarganfod mwy am statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a sut y gallwch wneud y gorau o syllu ar y sêr yn yr ardal, ewch i: www.breconbeacons.org/stargazing