Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ewch ar saffari'r gamlas!

Bydd ap newydd ar gyfer pobl sy'n ymweld â Chymru yn rhoi cyfle i chi fynd am dro gwyllt ar hyd Camlas Trefaldwyn y gaeaf hwn.

Image of a mobile phone using the canal safari app

6 Chwefror 2023

Image of a mobile phone using the canal safari app
Bydd ap newydd ar gyfer pobl sy'n ymweld â Chymru yn rhoi cyfle i chi fynd am dro gwyllt ar hyd Camlas Trefaldwyn y gaeaf hwn.

Cafodd yr ap am ddim hwn ei lansio yn Ionawr 2023 a'i ddatblygu gan elusen gadwraeth leol, sef Ymddiriedolaeth Bwyd Gwyllt Trefaldwyn (YBGT). Mae'r ap yn rhan o brosiect cydweithredol o'r enw Camlesi, Cymunedau a Llesiant a'i nod yw gwella profiad ymwelwyr drwy eu dwyn yn nes at gyfoeth bywyd gwyllt y ddyfrffordd.

"Rydym mor ffodus o gael Camlas Trefaldwyn ar stepen ein drws. Nid yn unig ydy'r gamlas yn adnodd hanfodol i fywyd gwyllt, mae hefyd yn wagle ffantastig i bobl agosáu at natur a rhoi hwb i'w llesiant meddwl mewn amgylchiadau prydferth," dywed Carla Kenyon, Pennaeth Iechyd a Llesiant YBGT. "Mae Saffari'r Gamlas hefyd yn arf cyffrous a fydd yn gwella ymweliad â'r ddyfrffordd wych hon drwy alluogi defnyddwyr i ganfod gwybodaeth am yr adar, mamaliaid a bywyd gwyllt eraill sy'n ymgartrefu yno."

Ar ôl lawrlwytho i ffôn clyfar, mae Saffari'r Gamlas yn defnyddio signal GPS i blotio'r defnyddiwr ar 'fap' darluniadol o'r rhan o'r gamlas sydd yng Nghymru, o Lanymynech i'r Drenewydd. Wrth i chi gerdded ar hyd y llwybr tynnu, mae eich lleoliad yn newid yn unol â hynny. Mae'r ap yn eich hysbysu am bwyntiau gerllaw ar thema natur ynghyd â ffeithiau diddorol iawn a ffotograffiaeth wych am brofiad rhyngweithiol llawn hwyl.

Cafodd yr ap ei gynllunio i alluogi pobl i sylwi ar y bywyd gwyllt sydd i'w ganfod yma, ei ddynodi a'i gofnodi ac i roi ffeithiau sydyn a gwybodaeth fanylach am dros 60 o'r planhigion ac anifeiliaid sydd fwyaf cysylltiol â'r gamlas. Mae hefyd yn cyfeirio defnyddwyr at naw gwarchodfa natur Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Trefaldwyn a leolir oddi ar y llwybr tynnu gerllaw. Ceir cwisiau sy'n berffaith i blant a theuluoedd i brofi eu gwybodaeth newydd, tra bo pwyntiau mynediad sy'n cysylltu â mapiau Google yn hwyluso trefnu tripiau i wahanol fannau ar y gamlas.

Bydd y rhai sy'n caru ffotograffiaeth yn gallu rhannu lluniau o fywyd gwyllt y gamlas ar Facebook ac Instagram, ac er mwyn cynnwys pobl eraill yn yr antur, byddwch chi'n gallu gwahodd eich ffrindiau i ymuno â chi ar Saffari'r Gamlas. Hefyd, gallwch adio'r milltiroedd o bob ymweliad a chadw cofnod o beth rydych wedi ei weld i ddatblygu o fod yn Sgowt i fod yn Anturiaethwr.

A phe na bai hynny'n ddigon, mae gan yr ap swyddogaeth gadwraeth gref yn greiddiol iddo. Mae Camlas Trefaldwyn ym Mhowys ymhlith y llefydd gorau yn y byd i weld planhigyn dyfrol prin o'r enw Llyriad-y-dŵr-arnofiol. Mae glas y dorlan i'w gweld yn aml yma ac mae'n gadarnle i'r dyfrgi, rhywogaeth sydd a'i niferoedd yn gostwng yn frawychus ar hyn o bryd. Gall unrhyw un sy'n defnyddio'r ap gofnodi beth mae'n ei weld a bydd y cofnodion gwerthfawr hyn yn helpu i adeiladu'r data pwysig hwn ledled y wlad a'r DU.

Crëwyd yr ap yn sgil prosiect partneriaeth o'r enw Camlesi, Cymunedau a Llesiant, sy'n anelu at wella cyfleoedd at fynediad, hamdden a chyswllt â natur oddi fewn i goridor Camlas Trefaldwyn yng ngogledd Powys a Chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn y de, o dan arweiniad Tîm Hamdden Mynediad At Gefn Gwlad Cyngor Sir Powys. Cydweithrediad yw hwn rhwng Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Fynwy, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Chanolbarth Cymru, Glandŵr  Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gan redeg tan fis Mai 2023. Mae'n cynnwys gwella'r llwybr tynnu a'r gwarchodfeydd natur, arwyddion dehongli newydd i ymwelwyr, ffilmiau hyrwyddo'r camlesi o'r awyr a theithiau cerdded tywys am fywyd gwyllt.

Mae Prosiect Camlesi, Cymunedau a Llesiant wedi derbyn arian drwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Economaidd a Llywodraeth Cymru.

I lawrlwytho Saffari'r Gamlas, ar gyfer Android neu iPhone, ewch i www.montwt.co.uk/canals-communities-and-wellbeing-project