Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyllideb gytbwys i gael ei hystyried gan y cyngor

A woman doing some calculations

15 Chwefror 2023

A woman doing some calculations
Er gwaetha'r amodau economaidd digynsail, bydd Cyngor Sir Powys yn cael cais i ystyried cyllideb gytbwys yr wythnos nesaf gyda buddsoddiad i wasanaethau allweddol gan gynnwys ysgolion.

Bydd cyfarfod o'r Cyngor Llawn yn cael cais i gymeradwyo cynlluniau gwariant o fwy na £326 miliwn ar gyfer 2023-2024 wedi'i ariannu gan gyfuniad o arian oddi wrth Lywodraeth Cymru a chynnydd i Dreth y Cyngor a fydd yn is na chwyddiant, pan fydd yn cwrdd ddydd Iau nesaf (23 Chwefror).

Dywedodd Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol, y Cynghorydd David Thomas: "Mae setliad llywodraeth leol gwell na'r hyn a ragwelwyd wedi caniatáu'r cyngor i gadw at isafswm cynnydd i dreth y cyngor er gwaetha'r pwysau ariannol digynsail. 

"Mae'r Cabinet yn cynnig cynnydd o 3.8 y cant i dreth y cyngor sy'n is na chwyddiant yn ei gyllideb ddrafft. Bydd y ffigur terfynol yn cynyddu i bump y cant i ariannu cynnydd i dreth yr Awdurdod Tân. 

"Er gwaetha'r cynnydd mewn ariannu dyma'r broses gosod cyllideb fwyaf anodd y mae'r cyngor sir wedi ei phrofi erioed. Mae effaith chwyddiant uchel, cynnydd yn y galw am ofal cymdeithasol, cyflog staff ac ariannu adferiad ôl-Covid-19 wedi cyfuno i greu sefyllfa anodd dros ben.

"Mae diogelu gwasanaethau wedi bod yn flaenoriaeth i ni ar hyd yr amser, yn enwedig y rheini sy'n cefnogi pobl ar yr adeg anodd iawn hwn, gan sicrhau fod ein hysgolion yn derbyn yr holl ariannu ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, gan arwain at fuddsoddiad ychwanegol o £5.6m mewn addysg. Rydym ni hefyd wedi darparu £500,000 ychwanegol ar gyfer cynlluniau effeithlonrwydd ynni mewn ysgolion.

"Mae pob cyllideb yn cynnwys cymysgedd o dwf hanfodol i ariannu gwasanaethau a gostyngiadau. Eleni, er gwaetha'r cynnydd cyffredinol yn ein cyllideb rydym wedi dynodi gostyngiadau o fwy na £16m wrth ddarparu gwasanaethau'n fwy effeithlon neu am bris gostyngol.

"Wrth weithredu'n gynnar i leihau gwariant y Cyngor drwy reolaeth ariannol dynnach, symud staff i brif swyddfeydd i leihau costau a gostwng tymheredd mewn adeiladau corfforaethol, rydym wedi cyflawni'n nodau heb effeithio ar wasanaethau llinell flaen.

"Rydym yn parhau â'r gwaith i drosi goleuadau stryd i fod yn oleuadau LED mwy effeithlon ac yn gostwng teithio ymhlith y staff drwy ffyrdd digidol o weithio, cwtogi costau a chwtogi ôl-troed carbon y cyngor. Mae ein system gwastraff ac ailgylchu'n parhau ar lefelau uchel, gan ragori ar darged ailgylchu Llywodraeth Cymru.

"Fodd bynnag, mae'r cynnydd arfaethedig i Dreth y Cyngor yn angenrheidiol er mwyn cydbwyso'n cyllideb a'n rhoi ar ben ffordd ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod. Bydd cynnig cynnydd is na chwyddiant yn cyfyngu'r effaith ar breswylwyr Powys, sydd fel pawb arall yn teimlo effaith yr argyfwng costau byw," ychwanegodd.

Caiff y gyllideb ei hystyried mewn cyfarfod o'r cyngor llawn ddydd Iau (23 Chwefror).