Gweinidog yn gweld sut y mae ysgol gynradd yn cefnogi gofalwyr ifanc
20 Chwefror 2023
Bu Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ymweld ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng ddydd Gwener (17 Chwefror) pan wnaeth ganmol ei chynllun Cydnabod Hawliau Gofalwyr Ifanc.
Mae'r corff arolygu Estyn, eisoes wedi tynnu sylw at y gwaith hwn fel "arfer da" ac roedd yr ysgol yn falch iawn o dderbyn mwy o glod.
Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng wastad wedi cydnabod hawliau gofalwyr ifanc, ond yn ystod y pandemig Covid canfuwyd bod rhai disgyblion heb eu hadnabod gan staff fel rhai oedd yn cyflawni'r rôl hon.
I fynd i'r afael â hyn, ac i helpu i ddarparu cymorth, penododd yr ysgol aelod o staff i weithredu fel pencampwr gofalwyr ifanc.
Mae'r ysgol yn nodi ar gofrestrau dosbarthiadau pa ddisgyblion sy'n ofalwyr ifanc a hefyd ar Broffiliau Un Dudalen, a ddefnyddir i dynnu sylw at anghenion dysgu ychwanegol. Sefydlwyd grŵp cymorth cyfoedion i ofalwyr ifanc sy'n cyfarfod unwaith yr wythnos ac sy'n cael ei gefnogi gan elusen gofalwyr, Credu.
Mae Credu yn derbyn cyllid Teuluoedd yn Gyntaf gan Lywodraeth Cymru i'w helpu i gefnogi gofalwyr ifanc yn y Trallwng ac ar draws Powys.
Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng yn olrhain cynnydd ei gofalwyr ifanc fel grŵp, mewn meysydd fel lles, cyrhaeddiad a phresenoldeb, ac yn dadansoddi tueddiadau i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cefnogi'n ddigonol.
Mae hefyd wedi sefydlu grŵp pontio gydag Ysgol Uwchradd y Trallwng i wneud yn siŵr bod hawliau ei gofalwyr ifanc yn parhau i gael eu diwallu unwaith y byddant yn symud i addysg uwchradd.
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: "Roeddwn wrth fy modd yn gweld y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng i gydnabod a chefnogi ei gofalwyr ifanc.
"Maen nhw'n wynebu heriau ychwanegol mewn bywyd bob dydd, ac roedd yn wych clywed bod llawer ohonyn nhw'n falch o'u statws gofalu a bod ganddyn nhw lefelau uwch o hunan-barch a hunanhyder ers ymuno â'r grŵp cymorth cyfoedion."
Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu, Cyngor Sir Powys: "Mae'r ysgol hon yn arwain y ffordd ar gyfer gweddill Cymru gyda'i phenderfyniad i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn gallu mwynhau eu hawliau o dan Gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn ystod ac yn dilyn pandemig Covid-19. Mae wedi rhannu ei phrofiad gyda phob ysgol arall ym Mhowys ac mae Polisi newydd Gofalwyr Ifanc ar gyfer ysgolion y Cyngor wedi ei ddatblygu gyda mewnbwn gan yr ysgol a'i dysgwyr. "
Gellir gweld astudiaeth achos Estyn ar waith Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng gyda gofalwyr ifanc yma: https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/cydnabod-hawliau-gofalwyr-ifanc
Mae Credu yn cefnogi gofalwyr ifanc ac oedolion. I ddarganfod mwy am waith Credu ym Mhowys ewch i'w gwefan: https://www.gofalwyr.cymru/
LLUN: Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn siarad â Justine Baldwin, y Pennaeth sy'n ymadael Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng a'r Cynghorydd Peter Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu, Cyngor Sir Powys.