Masnachwyr twyllodrus yn targedu trigolion a busnesau Powys
21 Chwefror 2023
Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys sydd wedi cyhoeddi'r rhybudd i sicrhau na chaiff trigolion a busnesau eu twyllo gan y masnachwyr dan sylw.
Mae'r gwasanaeth wedi derbyn adroddiadau fod masnachwyr twyllodrus yn hawlio fod ganddynt darmac dros ben o waith sy'n cael ei gyflawni ar ran y cyngor sir.
Hefyd mae gan Wasanaeth Safonau Masnach y cyngor engrheifftiau o alwyr digroeso, sydd yn weithwyr ffug anghymwys, sy'n codi prisiau aruthrol am ychydig iawn o waith neu ddim gwaith o gwbl, ac mae eu prisiau'n gamarweiniol iawn. Maent fel arfer yn mynnu cael eu talu ar unwaith, a diben yr arferion hyn yw er mwyn atal pobl rhag mynd ar eu hôl.
Dywed y Cyng. Richard Church, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys fwy Diogel: "Yn yr achosion hyn, mae safon y gwaith fel arfer yn wael iawn. Ein cyngor yw na ddylech byth cytuno i alwyr digroeso gwneud gwaith ar eich rhan, a chofiwch yr hen ddihareb - os ymddengys ei fod yn rhy dda i fod yn wir, dyna yw fel arfer.
"Ein cyngor gorau i breswylwyr neu fusnesau yw peidio â chyflogi unrhyw fasnachwr nad ydych yn ei adnabod sy'n galw'n ddigroeso, ac yn cynnig gwneud gwaith atgyweirio neu welliannau i'ch eiddo."
Os bydd cwsmeriaid potensial yn penderfynu cyflogi crefftwr nad yw'n ei adnabod, cyngor Gwasanaeth Safonau Masnach y cyngor yw:
- Gwirio manylion y masnachwr, yn enwedig unrhyw rif ffôn a roddir
- Gofyn i ffrindiau neu gymdogion os ydynt wedi clywed am y cwmni, ac os taw cwmni lleol yw, gwirio i gadarnhau lleoliad eu busnes
- Gofyn i'r masnachwr am dystlythyrau, ac os yn bosibl, cael cyfle i weld enghraifft o'i waith
- Byddai'n ddoeth defnyddio masnachwr sy'n aelod o gymdeithas fasnachol, ond gellir gwirio hyn gyda'r corff dan sylw cyn ei gyflogi
- Gofynnwch am ddyfynbris ysgrifenedig cyn bwrw at y gwaith. Gofalwch fod enw a chyfeiriad y masnachwr ar y dyfynbris, a bod pris y gwaith yn glir
- Cofiwch wneud nodyn o fanylion unrhyw gerbyd, gan gynnwys rhif cofrestredig y cerbyd
- Peidiwch â thalu unrhyw beth nes caiff y gwaith ei orffen, ac rydych yn fodlon ag ef. Ceisiwch dalu gyda siec neu gerdyn credyd - peidiwch â chael eich perswadio i fynd i'r banc neu'r gymdeithas adeiladu i dynnu arian parod i dalu.
Mae deddfwriaeth yn golygu bod yn rhaid i alwyr digroeso roi 'hysbysiad canslo' i ddefnyddwyr, sy'n rhoi 14 diwrnod iddynt ganslo unrhyw gontract a wnaethpwyd am waith gwerth dros £42. Mae methu â rhoi hysbysiad canslo yn y ffordd gywir yn drosedd.
Dylai unrhyw un sydd efallai wedi cael ei dwyllo neu sy'n credu ei fod yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei dwyllo fel hyn gysylltu â llinell gymorth y Cyngor ar Bopeth ar gyfer defnyddwyr, am ddim ar 0808 223 1133 neu os hoffech siarad gyda chynghorydd sy'n siarad Cymraeg, ffoniwch 0808 223 1144.