Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyllideb gytbwys yn cael ei chymeradwyo

Image of new British money

23 Chwefror 2023

Image of new British money
Mae cyllideb gytbwys wedi cael ei chymeradwyo, a fydd yn gweld buddsoddi mewn gwasanaethau allweddol, gan gynnwys ysgolion.

Er gwaetha'r amodau economaidd digynsail; heddiw, (ddydd Iau, 23 Chwefror), gwnaeth y Cyngor Llawn gymeradwyo cynlluniau gwariant sy'n fwy na £326miliwn ar gyfer 2023-2024.

Caiff y cynlluniau gwariant eu hariannu gan gyfuniad o arian oddi wrth Lywodraeth Cymru a chynnydd yn Nhreth y Cyngor sy'n is na chwyddiant.

Bydd y cynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor, sydd wedi ei rannu rhwng 1.2% ar gyfer Ardoll yr Awdurdod Tân a 3.8% ar gyfer y cyngor sir, yn costio £1.40 yn ychwanegol yr wythnos i dreth dalwr cyffredin Treth y Cyngor sydd ym Mand D. Bydd eiddo Band D yn talu £1524.45, bellach, am Dreth y Cyngor.

Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys archebion cyngor tref a chymuned na'r heddlu, a gaiff eu cynnwys pan fydd Treth y Cyngor yn derbyn cymeradwyaeth derfynol fis nesaf (Mawrth).

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Mae setliad llywodraeth leol gwell nag a ragwelwyd wedi galluogi'r cyngor i gadw cynnydd i Dreth y Cyngor ar ei isaf er gwaetha'r pwysau ariannol digynsail.

"Er gwaetha'r cynnydd mewn cyllid, dyma'r broses gosod cyllideb fwyaf anodd y mae'r cyngor sir wedi ei brofi erioed. Mae'r cyfuniad o chwyddiant uchel, galw cynyddol am ofal cymdeithasol, cyflogau staff ac ariannu adferiad ôl-Covid 19, wedi creu sefyllfa anodd dros ben.

"Ein blaenoriaeth drwy gydol y broses o osod y gyllideb oedd diogelu gwasanaethau, yn enwedig y rheini a oedd yn cefnogi pobl ar yr adegau mwyaf anodd. Llwyddwyd i wneud hynny drwy gydweithio, gan alluogi'r cyngor i osod cyllideb gytbwys.

"Bydd cymeradwyo'r gyllideb heddiw yn sicrhau bod ein hysgolion yn derbyn yr holl arian ychwanegol a ddarparwyd gan y setliad, gan arwain at £5.5m yn ychwanegol mewn buddsoddiad mewn addysgu. Byddwn ni hefyd yn darparu £500,000 ychwanegol i ddarparu cymorth ynni i ysgolion.

"Mae pob cyllideb yn cynnwys cymysgedd o dwf hanfodol i ariannu gwasanaethau a gostyngiadau. Er gwaethaf cynnydd cyffredinol yng nghyllideb eleni, rydym ni wedi dynodi mwy na £16m mewn gostyngiadau drwy fod yn fwy effeithlon wrth ddarparu gwasanaethau neu eu darparu am bris gostyngedig.

"Mae ein gwaith trosi goleuadau stryd i rai LED mwy effeithlon yn parhau, a'r gwaith o leihau teithio ymhlith y staff drwy ffyrdd digidol o weithio, gan ostwng costau a thorri lawr ar ôl-troed carbon y Cyngor.

"Fodd bynnag, roedd y cynnydd i Dreth y Cyngor yn angenrheidiol i gydbwyso'r gyllideb a'n gosod ar dir cadarn ar gyfer y flwyddyn ariannol o'n blaen. Rydym wedi ceisio cyfyngu'r effaith gaiff hyn ar bobl Powys drwy gadw'r cynnydd yn is na chwyddiant am fod pawb yn teimlo effaith yr argyfwng costau byw."