Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymeradwyo'r Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol

Stronger Fairer Greener

23 Chwefror 2023

Stronger Fairer Greener
Cafodd y Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol newydd ar gyfer 2023-2027 ei gymeradwyo gan y cyngor llawn heddiw (23 Chwefror).

Mae'r ddogfen yn gosod allan blaenoriaethau llesiant Cyngor Sir Powys ar gyfer y pum mlynedd nesaf a pha weithredu sydd ei angen i'w cyflenwi.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor a'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: "Rydym ni'n falch iawn o ddatgan cyhoeddiad y cynllun mwyaf pwysig i'r cyngor sir ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

"Dyma'r cynllun corfforaethol cyntaf i gael ei gyhoeddi i gefnogi ein huchelgais newydd i adeiladu 'Powys Gryfach, Decach, Wyrddach'.

"Pobl yw calon Powys, a hoffem ddiolch i bawb a gyfranogodd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a helpu i ddatblygu ein cynllun.

"Mae ein nodau newydd, sy'n cael eu manylu yn y cynllun, yn canolbwyntio ar feysydd y gallwn eu gwella neu eu datblygu i wneud bywydau pobl yn well, fel unigolion ac fel cymunedau."

Caiff Cynllun Cydraddoldeb a Chorfforaethol Strategol 2023-2027 ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor 1 Ebrill.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu