Toglo gwelededd dewislen symudol

Sesiynau Siglo a Giglo

Toddler with music

27 Chwefror 2023

Toddler with music
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod sesiynau'n cael eu cynnal mewn dwy lyfrgell ym Mhowys i helpu i hybu sgiliau cyfathrebu plant.

Mae llyfrgelloedd y Drenewydd ac Ystradgynlais yn cynnal sesiynau Siglo a Giglo am ddim i rieni, neiniau a theidiau neu ofalwyr i fwynhau gyda'u babanod a'u plant bach.  Bydd y sesiynau'n llawn rhigymau, straeon a chaneuon.  Ariennir y sesiynau gan Gronfa Datblygu'r Plentyn.

Cynhelir y sesiynau yn Llyfrgell Y Drenewydd bob dydd Gwener rhwng 2-3pm ac mae'r sesiynau yn llyfrgell Ystradgynlais bob dydd Llun rhwng 10:30 a 11:30am a bydd y ddwy sesiwn yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus, "Mae'r sesiynau hyn yn gyfle perffaith i deuluoedd gysylltu â'u babanod a'u plant bach ac i helpu i hybu eu sgiliau.

"Drwy ddefnyddio iaith ac ailadrodd rhythmig, gall plant ddysgu sut mae geiriau'n cael eu ffurfio, gan gefnogi camau cynnar datblygiad iaith. Mae'r sesiynau hyn hefyd yn gallu bod o werth i deuluoedd sydd â Saesneg fel ail iaith.

"Hoffwn annog teuluoedd yn y Drenewydd, Ystradgynlais a thu hwnt, i ddod draw i ymuno â ni ar gyfer y sesiynau hyn, neu fel arall, i wrando ar ein podlediadau pan fyddant ar gael. Mae'n siŵr y byddan nhw'n hwyl i bawb."

Bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys hefyd yn creu podlediadau ar gyfer rhigymau unigol. Bellach, nid yw hwiangerddi a chaneuon meithrin yn gyfarwydd i lawer o rieni a theuluoedd, felly bydd y cyfle i fynd yn ôl i'r podlediadau unrhyw bryd yn helpu i hybu hyder ymhlith rhieni.

Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â llyfrgell Y Drenewydd neu Ystradgynlais.