Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sioe deithiol magu plant yn gadarnhaol Powys yn dathlu blwyddyn ers y ddeddfwriaeth hawliau plant bwysig yng Nghymru

Parents spending time with their children

27 Chwefror 2023

Parents spending time with their children
Mae bron blwyddyn wedi mynd heibio ers i gosbi corfforol, fel smacio, ddod yn anghyfreithlon yng Nghymru. Roedd yn garreg filltir i hawliau plant wrth i blant gael yr un amddiffyniad cyfreithiol rhag ymosodiad cyffredin ag oedolion am y tro cyntaf.

Yn rhan o'r cymorth parhaus i rieni, bydd tair sioe deithiol Magu plant. Rhowch amser iddo yn cael eu cynnal ledled Cymru ym mis Mawrth. Bydd y sioe deithiol gyntaf yn ymweld ag Tesco Y Drenewydd, Powys, ddydd Iau  9 Mawrth o 9.30am tan 12.30pm. 

Nid yw magu plant bob amser yn rhwydd. Mae ymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo Llywodraeth Cymru eisiau helpu trwy roi cymorth, cyngor a gwybodaeth am fagu plant yn gadarnhaol i rieni â phlant hyd at 18 oed. Bydd y sioeau teithiol yn cynnig sesiynau galw heibio anffurfiol i'r cyhoedd mewn archfarchnadoedd, gan roi cyngor ymarferol ar dechnegau magu plant yn gadarnhaol a chyfle i ddysgu mwy am y gyfraith newydd ar gosbi corfforol.

Bydd cynrychiolwyr o wasanaethau cymorth i deuluoedd a magu plant awdurdodau  lleol a Magu plant: Rhowch amser iddo wrth law i siarad am bob agwedd ar fagu plant.

Dywedodd Sue Layton, Cadeirydd y Rhwydwaith Arweinwyr Strategol Teuluoedd a Magu Plant Cenedlaethol, sy'n cynorthwyo ymarferwyr i ddarparu gwasanaethau cymorth i deuluoedd/magu plant o ansawdd da, "Gan fod y gyfraith bellach mewn grym yng Nghymru, dyma'r adeg berffaith i gael gwybod am ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant. Mae magu plant yn rhoi llawer o foddhad, ond mae'n gallu bod yn heriol weithiau hefyd!

"Os na allwch ddod, mae'r wefan Magu plant: rhowch amser iddo yn cynnwys llawer o wybodaeth ac adnoddau i helpu a chefnogi rhieni, neu cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn uniongyrchol i gael gwybod pa gymorth magu plant sydd ar gael yn lleol."

Dywedodd Cynghorydd Susan McNicholas, Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol Cyngor Sir Powys , "Rydym yn falch iawn y bydd y sioe deithiol yn ymweld a Powys. Edrychwn ymlaen at siarad â theuluoedd am yr ymgyrch Magu plant: Rhowch amser iddo a'r hyn y mae'n ei gynnig. Rydym eisiau helpu i rannu ein gwybodaeth ac edrychwn ymlaen at ddod i'r sioe deithiol yn Y Drenewydd i gyfarfod â rhieni a phlant wyneb yn wyneb ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt."