Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Mae'r gwaith paratoi ar gyfer coed newydd ar strydoedd Machynlleth ar gychwyn

Image of Machynlleth town centre

6 Mawrth 2023

Image of Machynlleth town centre
Bydd y gwaith paratoi i blannu 27 o goed newydd yn yr Hydref, ar strydoedd yng nghanol tref Machynlleth yn dechrau'r wythnos hon.

Yn dilyn ymarfer ymgysylltu'r llynedd, a chael gwared yn sgil hynny o rai o'r coed presennol, bydd y gwaith i ddechrau gwella cyflwr y coed sydd yno'n barod a'r coed newydd fydd yn cael eu plannu ar hyd Heol Maengwyn (A489), Stryd Penrallt a Stryd Pentrehedyn (A487) yn dechrau'r wythnos hon (yr wythnos yn cychwyn 6ed Mawrth).

Bydd y gwaith yn golygu gwella wyneb y strydoedd ac amodau plannu'r coed sy'n weddill, yn ogystal â chreu tyllau plannu tanddaearol ar gyfer y 27 o goed newydd fydd yn cael eu plannu yn yr Hydref. Bydd mwyafrif y gwaith yn digwydd ar neu o gwmpas y palmantau a'r ardaloedd plannu, a chaiff ei gyflawni fesul ardal fach, er mwyn lleihau cymaint â phosibl tarfu ar gerddwyr ac ati. Ni fydd y gwaith yn effeithio ar fynediad at y siopau.

"Gall colli coed fod yn brofiad emosiynol, ond trwy'r ymarfer ymgysylltu, rydym wedi llwyddo i gyfuno barn broffesiynol arfaethedig a sylwadau a dyheadau'r gymuned leol er mwyn llunio cynllun gweithredu cadarn, sy'n addas at y dyfodol mewn perthynas â choed strydoedd yng nghanol tref Machynlleth," yn ôl y Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Mae'r broses o gael gwared ar rai o'r coed a ddifrodwyd / mewn safleoedd annoeth, wedi rhoi cyfle delfrydol inni wella cyflwr y coed sy'n weddill, a chyfle i ail-blannu coed a gwympwyd mewn ffordd fwy priodol - gan sicrhau ein bod yn dewis y lleoliadau cywir, y rhywogaethau coed iawn a dull plannu i sicrhau y byddant yn goroesi, ac y byddant yn bresenoldeb yng nghanol Machynlleth am flynyddoedd i ddod.

"Rydym yn ymwybodol o'r buddion niferus sy'n gysylltiedig â phlannu coed mewn trefi.  Nid yn unig maent yn gwella ein hamgylchfyd trwy edrych yn hardd, ond maent hefyd yn gallu chwarae rôl hollbwysig o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur sy'n ein hwynebu, trwy fod yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt, cynnig cysgod, amsugno dŵr dros ben, a gwella ansawdd yr aer.

"Edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddechrau'r gwaith yma, a diolchwn i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect hwn am eu hamser a'u mewnbwn.   Unwaith y bydd y gwaith o wella wyneb y strydoedd a'r ardaloedd plannu yn ystod y cam hwn o'r gwaith wedi gorffen, bydd y cam nesaf y mae pawb yn edrych ymlaen ato, sef plannu'r coed newydd, yn digwydd yn yr Hydref."