Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Digwyddiadau recriwtio ar gyfer swyddi gofal preswyl

Young person on phone and laptop

08 Mawrth 2023

Young person on phone and laptop
Mae Cyngor Sir Powys yn chwilio am staff gofal i weithio mewn cartrefi preswyl i gefnogi plant a phobl ifanc. 

Beth am ddod i un o'r digwyddiadau recriwtio fydd yn cael eu cynnal ar draws y sir i ddysgu mwy am weithio mewn un o'n cartrefi preswyl.   

Bydd y digwyddiadau'n gyfle i'r sawl sydd â diddordeb yn y swyddi ddysgu mwy am y cyfleoedd gwaith sydd ar gael ar hyn o bryd, ac i ofyn cwestiynau i'n tîm cyfeillgar.  Hefyd bydd ein staff ar gael i roi arweiniad ac i'ch helpu llenwi'r ffurflen gais.   

Byddwn yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal, boed hynny'n golygu ar gychwyn eich gyrfa, os oes gennych brofiad eisoes, neu os ydych chi'n chwilio am her newydd.   

Cynhelir y digwyddiadau yn y lleoliadau canlynol:  

  • Canolfan Integredig i Deuluoedd, Oldford, Y Trallwng, ddydd Llun 20 Mawrth am 11am - 1pm
  • Neuadd Les y Glowyr, Ystradgynlais, ddydd Gwener 24 Mawrth am 11am - 1pm

Trwy weithio gyda ni, byddwch yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ifanc yn y maes arbenigol hwn o fewn gofal preswyl, ac yn cefnogi plant a phobl ifanc ym Mhowys.  

Rydym yn cynnig buddion gwych i'n gweithwyr, gan gynnwys cyflogau rhagorol, ynghyd â hyfforddiant a chyfleoedd datblygu gwych. 

Mae cyfleoedd gwaith ar gyfer staff gofal cymwys, uwch aelodau staff gofal, yn ogystal ag unigolion sydd â phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc, a'r sawl sydd am weithio tuag at gymwysterau FfCCh.  

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol, y Cynghorydd Sandra Davies: "Rydym wedi ymrwymo i wireddu'r canlyniadau gorau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd ym Mhowys, felly, os hoffech gael cyfle newydd, a gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, beth am ddod i gwrdd â ni i ddysgu mwy am y swyddi sydd ar gael." 

I weld y swyddi gwag ar hyn o bryd, ewch i: https://cy.powys.gov.uk/swyddi