Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Yn eisiau - Aelodau ar gyfer Panel Apêl Derbyniadau Ysgolion

Image of a primary school classroom

08 Mawrth 2023

Image of a primary school classroom
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu penderfynu ar apeliadau gan rieni / gofalwyr mewn perthynas â chais am le mewn ysgol, yn ôl y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn awyddus i recriwtio pobl o gefndiroedd a gyda phrofiad amrywiol i ymuno â'r Panel Apêl ar gyfer Derbyniadau Ysgolion.  Mae'r paneli hyn yn ystyried apeliadau gan rieni / gofalwyr lle nid yw plentyn yn cael lle yn eu dewis ysgol.

Pan wrthodir lle i blentyn yn ei ddewis ysgol, mae ganddynt hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.  Bydd aelodau'r panel yn ystyried y rhesymau pam y dewiswyd yr ysgol gan y  rhiant / gofalwr, yn ogystal â'r rhesymau na ddyranwyd lle i'r plentyn, ac wedyn byddant yn penderfynu a ddylid cefnogi neu wrthod yr apêl.

Mae pob panel yn cynnwys o leiaf tri aelod. Mae hyn yn cynnwys rhywun heb unrhyw brofiad cyflogedig o ran addysg, a elwir yn aelod lleyg, ynghyd â rhywun sydd â phrofiad megis athro, neu lywodraethwr.

Bydd clerc cymwys yn rhoi cyngor ar faterion cyfreithiol a gweinyddol. Mae'n rhaid i bob aelod o'r panel fod yn annibynnol o'r awdurdod, yr ysgol a'r teuluoedd sy'n gysylltiedig â'r apêl.

Cynhelir apeliadau trwy gydol y flwyddyn, ond cynhelir y rhan fwyaf rhwng Mai a Gorffennaf.

Dywed y Cyng. Pete Roberts, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae'r paneli hyn yn bwysig iawn, ac mae'r gwaith yn werth chweil iawn.

"Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol nag arbenigedd ym maes addysg arnoch. Yr hyn sydd ei angen yw pobl gyda chymysgedd dda o sgiliau a chefndiroedd, sy'n gallu cynnig safbwyntiau a phrofiad a syniadau ffres."

Byddai'r rôl yn addas i bobl sydd â sgiliau gwrando rhagorol, yn ogystal â'r gallu i wneud i bobl deimlo'n gyfforddus, ac asesu tystiolaeth er mwyn gallu gwneud penderfyniad ar bob achos.

Mae'r sgiliau rydym yn chwilio amdanynt fel a ganlyn:

  • Gallu gwrando'n ddiduedd a gwerthuso dadleuon a thystiolaeth a gyflwynir gan y naill ochr a'r llall
  • Pendantrwydd - bydd yn rhaid gwneud penderfyniad ynghylch apêl yn fuan ar ôl clywed yr apêl
  • Hyblygrwydd -fel arfer cynhelir gwrandawiadau yn ystod oriau gweithio, felly byddwch chi ar gael? Byddwn wastad yn gofyn ynghylch argaeledd cyn cytuno ar ddyddiad apêl.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflawni'r rôl werthfawr hon, gallwch gyflwyno ffurflen gais hyd at 31 Mawrth 2023.

Bydd y cyngor yn ystyried y ceisiadau, ac yn eich hysbysu erbyn diwedd Ebrill 2023 a oedd eich cais yn llwyddiannus ai peidio.

Os cewch eich derbyn fel aelod o'r panel, byddwch yn derbyn gwahoddiad i hyfforddiant.

Am ragor o wybodaeth neu i gyflwyno cais, ewch i Swyddi Gwag