Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Yn Galw Holl Arwyr Sbwriel Powys!

Image advertising the 2023 Spring Clean Cymru campaign

9 Mawrth 2023

Image advertising the 2023 Spring Clean Cymru campaign
Ymunwch â Gwanwyn Glân Cymru - 17 Mawrth i 2 Ebrill

Mae cymunedau yn Powys yn cael eu hannog i ymuno â Gwanwyn Glân Cymru 2023 a helpu i godi'r sbwriel sy'n andwyo ein hamgylchedd lleol. 

Mae Cyngor Sir Powys yn gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus i gefnogi Gwanwyn Glân Cymru. Gyda'i gilydd maent yn galw ar unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau i gymryd rhan rhwng 17 Mawrth a 2 Ebrill.

Ymgyrch y llynedd oedd y mwyaf erioed, gyda 17,000 o wirfoddolwyr anhygoel yn cymryd rhan mewn 364 o ddigwyddiadau glanhau ar draws y wlad. Gobaith Cadwch Gymru'n Daclus yw curo'r cyfanswm hwn er mwyn sicrhau mai 2023 yw eu hymgyrch glanhau mwyaf llwyddiannus erioed.

"Mae cymunedau Powys yn enwog am ofalu am eu hardaloedd lleol, ond yn ystod pythefnos Gwanwyn Glân Cymru, byddem yn hoffi annog hyd yn oed mwy ohonoch i helpu cadw Powys yn lân ac yn wyrdd," eglura'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Mewn blynyddoedd blaenorol, gwelwyd nifer sylweddol o grwpiau ac unigolion yn gwirfoddoli i helpu cadw Powys yn lân ac yn daclus, felly mae'n bleser mawr allu ymuno â Chadw Cymru'n Daclus eleni ar gyfer ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru 2023.

"Byddaf yn mynd allan gyda'm grŵp lleol, Casglwyr Sbwriel Llangatwg, a buaswn yn annog cymaint ohonoch â phosibl i ymuno â neu drefnu digwyddiad lleol. Nid yn unig y bydd yn fuddiol i'r amgylchedd lleol, ond gall fod yn ffordd wych i gael hwyl a chymdeithasu gyda phobl debyg ichi.

"Gallwch fenthyg pecynnau hel sbwriel, sy'n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch, gan rai o'n llyfrgelloedd; felly beth am bicio draw i'w gweld neu gellir archebu pecyn ar-lein, a threfnu gweithgaredd Gwanwyn Glân ar gyfer eich ardal leol yn y dyfodol agos."

Dywedodd Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: "Mae ein neges eleni yn syml: gall hyd yn oed un bag wneud gwahaniaeth mawr. P'un ai eich bod yn dewis glanhau eich cymdogaeth chi, eich hoff draeth, parc neu fan prydferth - mae pob darn o sbwriel sy'n cael ei symud o'r amgylchedd naturiol yn bwysig.

"Mae codi sbwriel yn weithgaredd hwyliog hefyd, sydd am ddim ac yn gallu bod o fudd i'ch iechyd, eich lles a'ch ymdeimlad o falchder yn eich cymuned. Felly ewch i nôl codwr sbwriel, ewch allan i'r awyr agored a dangos cariad tuag at Gymru y gwanwyn hwn."

Mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhan o Caru Cymru - menter fwyaf erioed Cadwch Gymru'n Daclus i ddileu sbwriel a gwastraff.

Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I gymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus: www.keepwalestidy.cymru