Ydy cymorth Cysylltu Bywydau yn iawn i mi?
Gofynnir i bobl sy'n defnyddio Cysylltu Bywydau:
- beth sy'n bwysig iddynt a pha ganlyniadau yr hoffent eu cyflawni.
- Rhan o'r aelwyd.
- Rhan o'r gymuned.
- Wedi'u cefnogi a'u hannog i wneud dewisiadau.
- Yn cael eu parchu a bod ganddynt preifatrwydd.
- Wedi'u cefnogi i reoli unrhyw risgiau i'w hiechyd neu eu lles.
- Wedi'u cefnogi i ofalu am eu hiechyd.
- Wedi'u cefnogi i reoli eu harian.
- Wedi'u cefnogi i ffurfio, datblygu a rheoli eu cyfeillgarwch a'u perthnasoedd.
- Wedi'u hannog a'u cefnogi i fod mor annibynnol â phosibl.
Beth sy'n digwydd?
Os ydych chi'n meddwl yr hoffech ddefnyddio'r gwasanaeth, mae ychydig o bethau y byddwn yn eu gwneud:
- Byddwn yn gofyn i'ch Gweithiwr Cymdeithasol wneud atgyfeiriad.
- Byddwn yn cwrdd â chi ac unrhyw un arall yr hoffech iddo/iddi fod yn gysylltiedig.
- Byddwn yn siarad â chi am yr hyn sy'n bwysig i chi a pha ganlyniadau yr hoffech eu cyflawni. Byddwn yn ysgrifennu hyn i lawr mewn Cynllun Personol a byddwn yn ei rannu gyda chi.
- Os ydym yn credu bod gennym Ofalwr Cysylltu Bywydau a fyddai'n iawn i chi, byddwn yn trefnu i chi gwrdd er mwyn i chi ddod i adnabod eich gilydd.
- Os ydych chi a'r Gofalwr Cysylltu Bywydau yn cytuno bod hyn yn iawn i'r ddau ohonoch, byddwn yn cytuno ar Gytundeb Lleoli sy'n disgrifio'r hyn y mae pawb yn mynd i'w wneud.
- Os hoffech fyw gyda Gofalwr Cysylltu Bywydau, aros am seibiannau byr neu gael cymorth sesiynol, efallai y gofynnir i chi gyfrannu rhywfaint o arian tuag at eich gwasanaeth.
- Bydd ein tîm cyllid yn gwneud asesiad ac yn dweud wrthych faint fydd hyn, yna byddwch yn penderfynu a yw Cysylltu Bywydau yn iawn i chi.
Mwynhau cwmni eich gilydd
Nid oes rhaid i chi hoffi'r un pethau i gyd ond mae'n bwysig eich bod chi'n mwynhau cwmni eich gilydd ac yn dysgu sgiliau newydd gyda'ch gilydd.
Mae llawer o bethau a all wneud y person iawn i fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau i chi, megis:
- Efallai y byddech yn teimlo bod yr un pethau'n ddoniol a chael hwyl gyda'ch gilydd
- Efallai bod gennych yr un credoau crefyddol
- Efallai y bydd y ddau ohonoch yn gwylio'r un math o ffilmiau neu'n gwrando ar yr un mathau o gerddoriaeth
- Gallech hoffi'r un chwaraeon neu dimau
- Gallech gael hobïau neu ddiddordebau tebyg
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau