Toglo gwelededd dewislen symudol

Cysylltu Bywydau

shared lives

Mae Cysylltu Bywydau yn wasanaeth lle mae pobl sydd angen rhywfaint o gefnogaeth, yn byw gyda neu'n ymweld â phobl sydd wedi penderfynu rhannu eu cartrefi, eu cymuned a'u bywyd teuluol.  Gelwir y rhain yn Ofalwyr Cysylltu Bywydau. 

Mae Gofalwyr Cysylltu Bywydau yn cael eu recriwtio, eu hasesu a'u hyfforddi gan Cysylltu Bywydau Powys. Mae pobl yn aros gyda Gofalwyr Rhannu Bywydau am gyfnod hir, arhosiad byr neu'n ymweld ar gyfer cymorth sesiynol.  Mae pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn dewis yr hyn maent yn ei wneud, ble maent yn byw a faint o amser maent yn ei dreulio gyda'r Gofalwr Cysylltu Bywydau. 

Rydym am i bobl fod mor annibynnol â phosibl.  Y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth sy'n penderfynu pa ganlyniadau maent yn eu dymuno mewn bywyd.   Os bydd rhywun yn teimlo bod rhywbeth yn anodd, gall Gofalwyr Cysylltu Bywydau weithio gyda nhw nes eu bod yn teimlo'n hapus i'w wneud ar eu pen eu hun. Mae Gofalwyr Cysylltu Bywydau yn hunangyflogedig ac yn cael eu talu pan fydd y person yn aros gyda nhw. Dysgwch fwy drwy gysylltu â thîm Cysylltu Bywydau Powys.

Gwybodaeth Cysylltu Bywydau

Defnyddio'r Gwasanaeth Rhannu Bywydau Dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau

Defnyddio'r Gwasanaeth Rhannu Bywydau

Cyfle i ddarganfod mwy am y cymorth a ddarperir gan y Gwasanaeth Rhannu Bywydau

Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Defnyddio'r Gwasanaeth Rhannu Bywydau)

Dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau

Dysgwch fwy am ddod yn ofalwr Cysylltu Bywydau trwy ddarllen y tudalennau gwybodaeth neu gael sgwrs gyda rhywun yn nhîm Cysylltu Bywydau Powys.

Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau)
Defnyddio'r Gwasanaeth Rhannu Bywydau Defnyddio'r Gwasanaeth Rhannu Bywydau

Defnyddio'r Gwasanaeth Rhannu Bywydau

Cyfle i ddarganfod mwy am y cymorth a ddarperir gan y Gwasanaeth Rhannu Bywydau

Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Defnyddio'r Gwasanaeth Rhannu Bywydau)
Dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau Dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau

Dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau

Dysgwch fwy am ddod yn ofalwr Cysylltu Bywydau trwy ddarllen y tudalennau gwybodaeth neu gael sgwrs gyda rhywun yn nhîm Cysylltu Bywydau Powys.

Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu