Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut i ddod yn ofalwr

Cam 1: Cysylltu â ni

Sgwrsiwch â ni yn y tîm Cysylltu Bywydau a gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych a rhowch wybod i ni fod gennych ddiddordeb

Cam 2: Ymweliad â'r cartref

Bydd aelod o'n tîm yn ymweld â chi gartref.  Byddwn yn siarad â chi am Cysylltu Bywydau ac yn trafod a fyddai'n addas i chi, ac unrhyw un arall yn eich cartref.  Gallwch ofyn cynifer o gwestiynau ag y dymunwch i ni!  Byddwn yn gadael pecyn cais i chi.

Cam 3: Yr asesiad

Bydd ein tîm Cysylltu Bywydau yn ymweld â chi sawl gwaith i siarad mwy am eich bywyd, eich cartref, eich teulu a'ch cymuned. Byddwn yn sgwrsio â chi ynglŷn â pham rydych chi eisiau bod yn ofalwr, a'r sgiliau, y wybodaeth a'r profiad y gallwch eu cynnig i rywun.

Byddwn yn cynnal gwiriadau arnoch.  Byddwn yn gofyn am eirdaon gan bobl sy'n eich adnabod yn dda.

Byddwn yn rhoi rhaglen hyfforddi i chi a byddwn yn eich cefnogi i weithio drwyddi.

Byddwn yn dod i'ch adnabod, eich ffordd o fyw, hoff bethau, cas bethau a hobïau i sicrhau bod unrhyw un sy'n dod i aros gyda chi yn cyd-fynd yn dda.

Cam 4: Y panel

Bydd eich cais yn cael ei gyflwyno i'n panel Cysylltu Bywydau.

Mae'r panel yn cynnwys pobl sy'n gweithio i Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Powys a nhw fydd yn penderfynu a ddylid argymell eich bod yn cael eich cymeradwyo fel gofalwr.

Mae'r broses asesu fel arfer yn cymryd tua dau neu dri mis.  Byddwn yn gweithio gyda chi i symud eich cais ymlaen yn brydlon ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y broses.

Os byddwch yn cael eich cymeradwyo fel gofalwr byddwn yn gweithio i'ch cyflwyno i rywun sy'n chwilio am ofalwr Cysylltu Bywydau.  Byddwn yn sicrhau eich bod yn cyd-dynnu â'ch gilydd ac yn mwynhau treulio amser gyda'ch gilydd. Gelwir hyn yn 'baru'.

Cyflwyno Ymholiad Cysylltu Bywydau Cyflwyno Ymholiad Cysylltu Bywydau