Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Palmant Stryd Fawr Llanandras i'w ledaenu'n barhaol

Image of Presteigne high street

13 Mawrth 2023

Image of Presteigne high street
Bydd y gwaith o ledaenu'r palmant ar ben Stryd Fawr Llanandras yn dechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 20 Mawrth 2023.

Caiff mesurau a osodwyd mewn lle i helpu i hwyluso mesurau cadw pellter cymdeithasol yn ystod pandemig Covid 19 eu mabwysiadu'n barhaol ar hyd pen coblog Stryd Fawr Llanandras, yn ddiweddarach y mis hwn.

Ar hyn o bryd mae rhan coblog y ffordd wedi ei chau i ffwrdd o draffig gyda bolardiau dros dro i alluogi cerddwyr i gael rhagor o le i gerdded ar hyd y palmant ac i mewn i ganol y dref. Bydd y gwaith o godi'r rhan coblog a'i hymgorffori'n barhaol â'r palmant yn digwydd yn ystod yr wythnos yn dechrau 20 Mawrth a disgwylir iddo gymryd dim mwy na phythefnos i'w gwblhau. Tra bo'r gwaith yn digwydd, bydd y palmant ar gau ond bydd mynediad i'r siopau yn parhau. 

Dywed y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach, "Yng nghanol y pandemig, cafodd mesurau eu cyflwyno i helpu i gadw pobl yn ddiogel. Yma yn Llanandras, fel trefi eraill ledled y sir, mae'r newidiadau dros dro wedi bod mor fanteisiol i fusnesau, preswylwyr ac ymwelwyr â'r dref, fel eu bod wedi cael eu mabwysiadu'n barhaol bellach."

Mae'r Aelod Lleol, y Cynghorydd Beverley Baynham, yn cefnogi'r cynlluniau i ledaenu'r palmant, gan ddweud, "Mae unrhyw beth sy'n gwella mynediad at siopau a busnesau, gan annog rhagor o bobl i ymweld yn rhwydd â chanol ein tref, i'w groesawu.

"Cafodd y palmant ei ledaenu ar ben y Stryd Fawr fel mesur dros dro yn ystod Covid, ac rwy'n falch y bydd gwaith yn cael ei gyflawni i'w wneud yn barhaol, heb golli unrhyw barcio ar y stryd. Bydd y gwaith yn sicrhau fod y llwybr cerdded yn hygyrch i bawb, yn enwedig ar ddyddiau prysur i'r sawl sy'n gwthio bygis neu'n defnyddio cadair olwyn."

"Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth y mae'r cynllun hwn wedi ei dderbyn oddi wrth breswylwyr a busnesau lleol, yn enwedig wrth i ni sylweddoli y bydd yna beth aflonyddu am ychydig wythnosau wrth i'r gwaith fynd rhagddo."