Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dal i fod amser i gyflwyno cais ar gyfer Blynyddoedd Cynnar

Image of an adult supervising two children playing

15 Mawrth 2023

Image of an adult supervising two children playing
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud bod dal i fod amser i rieni neu ofalwyr i gyflwyno ceisiadau ar gyfer plant a fydd yn dechrau addysg cyn-ysgol yn 2024.

Rhaid i geisiadau ar gyfer derbyniadau Blynyddoedd Cynnar gael eu llenwi a'u cyflwyno erbyn dydd Gwener, 31 Mawrth 2023.

Bydd y ceisiadau ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021 ar gyfer lle mewn lleoliad y blynyddoedd cynnar yn 2024.

Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu'r cyngor i sicrhau y caiff pob plentyn ym Mhowys fynediad at addysg y blynyddoedd cynnar rhan amser am ddim, o ddechrau'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn deirblwydd.

Gall pob plentyn cymwys dderbyn uchafswm o ddeng awr yr wythnos o addysg y blynyddoedd cynnar a ariennir os ydynt yn mynychu lleoliad addysg cyn-ysgol cymeradwy a ariennir.

Bydd plant sy'n gymwys ar gyfer addysg rhan amser am ddim, ond yn derbyn lleoedd a ariennir os ydynt yn mynychu lleoliad addysg cyn-ysgol cymeradwy a ariennir.

Dywedodd y Cyng Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i lenwi'r cais hwn cyn gynted ag y gallant er mwyn sicrhau bod gan eu plentyn y cyfle gorau am le yn y lleoliad cyn oed ysgol / blynyddoedd cynnar o'u dewis y flwyddyn nesaf.

"Os na fydd y cais yn cael ei anfon mewn da bryd, gallai peryglu lle eu plentyn yn y lleoliad o'u dewis os yw'n un poblogaidd."

Bydd angen i rieni / gofalwyr lenwi ffurflen gais ar-lein yn Cais am Leoliad Cyn Ysgol (3 a 4 oed)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael trafferth llenwi neu gyflwyno'r cais mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Derbyn ar 01597 826449 neu e-bostio preschooladmissions@powys.gov.uk