Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Partneriaeth Ranbarthol Cyfamod Sirol y Lluoedd Arfog yn ethol Cadeirydd newydd

Image of the Armed Forces Covenant Regional Partnership Powys

22 Mawrth 2023

Image of the Armed Forces Covenant Regional Partnership Powys
Mae partneriaeth sy'n cefnogi cymuned Lluoedd Arfog y sir wedi ethol cadeirydd newydd.

Bu'r Cyng. Matthew Dorrance, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Powys yn cadeirio ei gyfarfod cyntaf o Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog fis diwethaf (Chwefror) yn Ysgol Frwydro'r Milwyr Traed Aberhonddu, Dering Lines.

Mae'r bartneriaeth, sy'n cynnwys y cyngor sir, elusennau a darparwyr gwasanaeth, yn datblygu darpariaeth a threfniadau hyrwyddo gwasanaethau lleol ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog yn y sir, er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu hanfanteisio.

Nodau cyffredinol y bartneriaeth yw:

  • annog cymunedau lleol i gefnogi'r lluoedd arfog ac i ddeall y problemau sy'n effeithio ar gymuned y lluoedd arfog;
  • adnabod a chofio'r aberthau a wynebwyd gan y lluoedd arfog;
  • annog gweithgareddau sy'n helpu integreiddio lluoedd arfog cymunedau i fywyd lleol;
  • annog cymuned y lluoedd arfog i helpu a chefnogi'r gymuned ehangach, boed trwy gymryd rhan mewn digwyddiadau a phrosiectau ar y cyd, neu drwy ddulliau ymgysylltu eraill.

"Roedd yn anrhydedd cael cadeirio cyfarfod cyntaf y bartneriaeth wrth Hyrwyddo'r Lluoedd Arfog; a'n gobaith yw cefnogi'r sawl sy'n gwasanaethu a'r sawl sydd wedi gwasanaethu.  Hoffwn ddiolch i'r Is-gyrnol Rupert Anderson am drefnu'r cyfarfod yn YsgolFrwydro'r Milwyr Traed yn Aberhonddu," meddai'r Cyng. Dorrance.

"Roedd yn gyfarfod cadarnhaol ac uchelgeisiol gyda thîm sy'n awyddus i wneud eu gorau ar ran cymuned y Lluoedd Arfog.  Roedd fy nhadcu, fy nhad a'm brawd yn aelodau o'r lluoedd arfog, felly edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda chymunedau'r Lluoedd Arfog, ac at wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar gyfer ein cyn-filwyr, aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd."