Adolygiad o wasanaethau'r gaeaf ar ffyrdd Powys
22 Mawrth 2023
Mae rhwydwaith ffyrdd Powys yn ymestyn dros 5,500 cilomedr ac mae'n cynnwys ffyrdd y sir (sy'n cael eu cynnal a'u rheoli gan Gyngor Sir Powys) a chefnffyrdd (sy'n cael eu cynnal a'u rheoli gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru NMWTRA ar ran Llywodraeth Cymru.
"Yn hanesyddol, mae'r ffordd y mae'r ffyrdd hyn wedi cael eu gwasanaethu a'u cynnal dros fisoedd y gaeaf wedi esblygu ar lefel lleol." Esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.
Er bod y rhesymeg y tu ôl i raglen gwasanaethau'r gaeaf cyfredol wedi bod â bwriadau da, nawr yw'r amser i hwn gael ei adolygu yn erbyn cod ymarferion cenedlaethol ac anghenion cyfredol a modern ein sir."
Yn dilyn cytundeb y cabinet nôl ym mis Hydref 2019 penderfynwyd y dylid adolygu' rhaglen gyfredol gwasanaethau'r gaeaf ac y dylid dod â chynigion newydd yn ôl i'r cabinet i'w hystyried.
Gan weithio gydag arweiniad Grŵp Ymchwil Gwasanaethau'r Gaeaf Cenedlaethol (NWSRG) a'r Cod Ymarfer: Seilwaith Priffyrdd a reolir yn dda, y bwriad yw categoreiddio holl ffyrdd Powys gan ddefnyddio dull yn seiliedig ar risg ac ar sail tystiolaeth. Yn syml mae hyn yn golygu y byddwn yn ystyried nifer o ffactorau ar gyfer pob ffordd, gan gynnwys maint y traffig, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, amwynderau megis siopau a gwasanaethau hanfodol fel ysgolion, canolfannau meddygol a lleoliad y gwasanaethau brys.
Unwaith y bydd y categori arfaethedig ar gyfer pob ffordd wedi'i gadarnhau, gallwn gymhwyso'r rhain yn nhermau ymarferol, gan ddatblygu set arfaethedig o lwybrau gwasanaethau'r gaeaf ar gyfer y sir gyfan a fydd wedi'u creu gan ddull agored, cyson a theg a fydd yn darparu gwasanaethau cyfartal i Bowys gyfan.
Parhaodd y Cynghorydd Charlton: "Os yw'r cabinet yn cytuno â'r cynigion hyn, ein cam nesaf fydd caniatáu i bobl Powys gael dweud eu dweud ar sut mae'r broses categoreiddio ffyrdd yn gweithio trwy ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd ar-lein.
"Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cwrdd â disgwyliadau'r cymunedau ac yn cymhwyso'r meini prawf terfynol yn deg ar draws y sir gyfan."
Bydd rhagor o fanylion am benderfyniad y cabinet ar y cynigion a'r ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd ar gael yn fuan.