Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Bargen Dwf Canolbarth Cymru yn gobeithio sicrhau'r gyfran gyntaf o arian gan y ddwy Lywodraeth

Image of Growing Mid Wales logo

28 Mawrth 2023

Image of Growing Mid Wales logo
Yng nghyfarfod Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru a gynhaliwyd ar 28 Mawrth, cymeradwywyd dogfennau allweddol, gan symud Bargen Dwf Canolbarth Cymru gam yn nes at dderbyn cyfanswm o £110m gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Bydd fersiwn ddiweddaraf Achos Busnes Strategol y Portffolio, sef y ddogfen sy'n manylu ar sut y bydd Portffolio'r Fargen Dwf yn cael ei gyflawni ac yn diwallu ei amcanion, nawr yn cael ei chyflwyno i'r ddwy Lywodraeth ynghyd â dogfennau ategol hanfodol fel y gallant ystyried rhoi'r gyfran gyntaf o gyllid ar gyfer Bargen Dwf Canolbarth Cymru.

Mae rhan o'r broses hon wedi cynnwys adolygiad sicrwydd annibynnol a gynhaliwyd ym mis Chwefror. Pwrpas yr adolygiad oedd rhoi hyder i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru bod gan y Fargen Dwf y trefniadau cywir i ddechrau cyflawni.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: "Rydym yn falch iawn fod Bargen Dwf Canolbarth Cymru wedi cael sgôr Oren-Gwyrdd hynod gadarnhaol, sy'n canmol ac yn cydnabod y gwaith caled a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Mae'r adolygiad a'r gwaith ehangach a wnaed ar y dogfennau allweddol yn dangos ein bod yn barod i dderbyn cyllid y Fargen Dwf, yn amodol ar y ddwy Lywodraeth yn adolygu ac yn cytuno."

"Mae cryn dipyn o waith o'n blaenau o hyd, mae rhaglenni a chynigion prosiect y Fargen Dwf wrthi'n datblygu'u hachosion busnes, ond os bydd y ddwy Lywodraeth yn cytuno, byddwn wedi cyrraedd carreg filltir enfawr wrth gael y cyllid i ddechrau llifo i'r Canolbarth.

"I gwblhau'r prosesau hyn, bu gwaith ymgysylltu gyda gwahanol grwpiau a rhanddeiliaid a derbyniwyd mewnbwn sylweddol ganddynt, yn enwedig ein Grŵp Cynghori Economaidd, ac rydym yn diolch iddynt i gyd am eu gwaith partneriaeth a'u hymrwymiad parhaus i sicrhau ein bod yn darparu'r canlyniadau gorau posibl i'n rhanbarth."

Ychwanegodd yr Arweinwyr "Mae wedi bod yn siwrnai anodd, a bydd yr hinsawdd economaidd yn parhau i gyflwyno heriau newydd i ni wrth i ni geisio gweld y cynlluniau hyn yn ennill eu plwyf. Fodd bynnag, rydym yn falch ein bod yn symud trwy'r gofynion mor gyflym ag y gallwn."

Gallwch dderbyn newyddion misol am yr holl waith y mae Tyfu Canolbarth Cymru yn ei wneud drwy ymuno â'r cylchlythyr, drwy anfon e-bost at growingmidwales@ceredigion.gov.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am y Fargen Dwf, ewch i'r wefan: www.tyfucanolbarth.cymru

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu