Toglo gwelededd dewislen symudol

Arwyr sbwriel yn ymgynnull ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru

Image of the Llangattock Litter Pickers

28 Mawrth 2023

Image of the Llangattock Litter Pickers
Daeth Codwyr Sbwriel Llangatwg a staff Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Fynwy ynghyd ddydd Iau (23 Mawrth) ar gyfer twtio cymunedol yn yr ardal leol fel rhan o ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru, Cadwch Gymru'n Daclus.  

Wrth weithio gyda'i gilydd, gwnaeth tîm o 17 gwirfoddolwr gael gwared ar dros 20 sach o sbwriel ac ailgylchu yn Llangatwg a'r cyffiniau, ardal brydferth ar y ffin rhwng Powys a Sir Fynwy. Ymunwyd â nhw gan Brif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus, Owen Derbyshire, sy'n teithio ledled y wlad i gyflawni'r gwaith glanhau bob dydd yn ystod digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru (17 Mawrth tan 2 Ebrill).  

Gobaith Owen yw ysbrydoli unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau i gymryd rhan. Dywedodd: " "Mae ein neges yn un syml eleni: gall hyd yn oed un sach wneud gwahaniaeth mawr. Boed i lanhau eich cymdogaeth eich hun, eich hoff draeth, parc neu leoliad prydferth - mae pob un darn o sbwriel sy'n cael ei waredu o'r amgylchedd naturiol yn cyfri.

"Mae casglu sbwriel hefyd yn weithgaredd llawn hwyl sydd am ddim ac yn gallu bod o fudd i'ch iechyd, llesiant ac ymwybyddiaeth o falchder yn eich cymuned. Felly mynnwch godwr sbwriel, ewch i'r awyr agored a dangoswch ychydig o gariad at Gymru y gwanwyn hwn."

Mae'r digwyddiad yn Llangatwg yn un o sawl digwyddiad Cadwch Gymru'n Daclus sy'n digwydd ym Mhowys a Sir Fynwy.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Catrin Maby: "Mae taflu sbwriel yn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n effeithio ar gymunedau yn ogystal â chefn gwlad - felly ple fawr yw hwn ar bawb i beidio â gollwng sbwriel!

"Mae ymdrechion yr holl gasglwyr sbwriel gwirfoddol anhygoel yn wirioneddol wneud gwahaniaeth enfawr i fynd i'r afael â'r broblem hon, ac rwy'n gobeithio y bydd Gwanwyn Glân Cymru'n annog rhagor o bobl i helpu eu cymuned leol drwy gymryd rhan. Heddiw, hoffwn ddiolch i gydweithwyr yng Nghynghorau Sir Fynwy a Phowys, Cadwch Gymru'n Daclus a chasglwyr sbwriel Llangatwg" .

Mae Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Wyrddach, y Cynghorydd Jackie Charlton, yn gwirfoddoli'n aml gyda'i grŵp lleol, Codwyr Sbwriel Llangatwg, ac mae'n cael ei chalonogi wrth weld eraill yn gwneud yr un peth. Dywedodd: "Mae wedi bod yn galonogol gweld faint o bobl sydd wedi ymgymryd â'r her eisoes ac ymuno i gadw eu hardaloedd lleol yn lân ac yn wyrdd fel rhan o ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru."

"Nid yn unig yw mynd allan ac o gwmpas y lle ag eraill i godi sbwriel lleol yn fuddiol i'n hamgylchedd, ond gall fod yn ffordd grêt o gael hwyl a chymdeithasu â phobl o'r un anian. Mae dod ynghyd â'n ffrindiau a chydweithwyr o Sir Fynwy wedi bod o fwynhad arbennig i ni, er budd ein hardaloedd lleol.  

"Gallwch fenthyg cit offer codi sbwriel sy'n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch, oddi wrth rai llyfrgelloedd, felly galwch mewn neu drefnu cit ar gadw ar-lein a gwanwyn glân ar gyfer eich ardal leol yn fuan."  

Mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhan o Garu Cymru - sef menter fwyaf erioed Cadwch Gymru'n Daclus i gael gwared ar sbwriel a gwastraff.

Mae Caru Cymru wedi derbyn nawdd drwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru  2014-2020, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I gymryd rhan yng Ngwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus:  www.keepwalestidy.cymru

Ffoto: Codwyr Sbwriel Llangatwg, staff o Gyngor Sir Powys a Chyngor Sir Fynwy a chynrychiolwyr o Gadwch Gymru'n Daclus

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu