Lansio cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Canolbarth Cymru 2022 - 2025
30 Mawrth 2023
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, yn gyfle i fusnesau rwydweithio ac archwilio cyfleoedd ynglŷn ag uwchsgilio, hyfforddiant a phrentisiaethau, a chael arweiniad ynghylch caffael a thendro.
Dywedodd Emma Thomas, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru: "Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd y digwyddiad. Fel partneriaeth sy'n cael ei harwain gan fusnesau, roeddem am i fusnesau'r rhanbarth ddefnyddio'r digwyddiad fel llwyfan i leisio eu barn ac i rannu eu stori ‒ i ddefnyddio hyn fel cyfle i nodi heriau a datblygiadau pellach ynghylch meysydd sgiliau, hyfforddiant a'r economi ranbarthol."
Lansiodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS y cynllun Cyflogaeth a Sgiliau yn swyddogol drwy fideo a recordiwyd ymlaen llaw, gan gydnabod y cydweithio a'r cyd-gynhyrchu a ddigwyddodd i ddod â'r cynllun uchelgeisiol ar gyfer y rhanbarth at ei gilydd.
Mae'r Cynllun yn nodi sectorau a sgiliau allweddol, blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi rhanbarthol i gefnogi swyddi a thwf yn rhanbarth Canolbarth Cymru, ac yn gosod y mecanwaith i greu seilwaith sgiliau mwy llewyrchus ar gyfer y rhanbarth am y tair blynedd nesaf a thu hwnt.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys, ar y cyd: "Trwy ymgysylltu'n agos â busnesau, gan roi llais iddynt ddylanwadu ar y blaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth, mae'r Cynllun hwn yn rhoi sylw i bwysigrwydd gwneud cysylltiadau cryf rhwng busnesau a'r system ddysgu leol, fel ein bod yn creu'r amodau cywir ar gyfer gweithlu llewyrchus.
"Gan taw hwn yw'r Cynllun cyntaf o'i fath yn y rhanbarth, rydym am iddo gael ei ddefnyddio fel ffordd o sbarduno newid yn y rhanbarth."
Os colloch chi'r digwyddiad ac yr hoffech gymryd rhan yng ngwaith y Bartneriaeth, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Grŵp Clwstwr Busnesau sy'n cael ei sefydlu. Gall arweinwyr/arbenigwyr o'r Canolbarth ymuno â'r grŵp sy'n ceisio helpu'r Bartneriaeth Sgiliau i nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau a'r materion sy'n effeithio ar fusnesau yng Nghanolbarth Cymru.
Mae angen mwy o aelodau i sicrhau bod cydbwysedd o ran cynrychiolwyr o wahanol sectorau a bod amrywiaeth o fusnesau micro, canolig a mawr.
Dywedodd Emma ymhellach: "Helpwch ni i ddeall y rhwystrau sydd gennych o ran sgiliau a recriwtio, gan alluogi Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru i fod yn llais i chi ble bynnag a phryd bynnag mae angen."
I ymuno â'r grŵp clwstwr, e-bostiwch midwalesrsp@powys.gov.uk.
Gallwch weld y cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru: www.tyfucanolbarth.cymru/PartneriaethSgiliauRhanbartholCanolbarthCymru