Toglo gwelededd dewislen symudol

Dysgu Nofio gyda Freedom Leisure!

Swimming

31 Mawrth 2023

Swimming
Mae canolfannau Freedom Leisure ym Mhowys yn annog rhieni i sicrhau fod eu plant yn gwybod sut i aros yn ddiogel a mwynhau'r dŵr wrth inni symud i fisoedd cynhesach y Gwanwyn a'r Haf.

Gyda llawer ohonom yn dewis cymryd gwyliau yn y wlad hon dros wyliau'r Pasg a'r Haf, bydd llawer o deuluoedd yn heidio i'r traethau a lleoliadau dŵr mewndirol, heb ystyried y peryglon potensial, gan beri risg i'w hunain ac eraill. Neu i'r sawl sydd efallai am gael gwyliau tramor, hwyrach y byddant yn defnyddio pyllau nofio sydd heb achubwyr bywyd ac felly bydd risg iddynt os nad ydynt yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i gadw eu hunain yn ddiogel yn y dŵr.

Dengys ffigurau fod tua 25% o blant ysgol gynradd yn gadael yr ysgol heb ddysgu nofio, ac mae arbenigwyr yn ofni, oherwydd y pandemig, ni fydd llawer o bobl ifanc yn medru nofio nac achub eu hunain.

Mae Freedom Leisure ym Mhowys sy'n rhedeg llawer o byllau nofio ledled y Sir, megis Maldwyn yn Y Drenewydd, y Flash yn Y Trallwng, a Bro Ddyfi ym Machynlleth yn cynnig rhaglen Dysgu Nofio wych sy'n achrededig gan Nofio Cymru; mae miloedd o blant ac oedolion wedi dysgu'r sgil hollbwysig hwn drwy'r rhaglen. Mae llefydd cyfyngedig ar gael nawr, ac fel rhan o'r rhaglen byddwch hefyd yn elwa o

Mae dros 400 o bobl yn boddi trwy ddamwain yn y DU a'r Iwerddon bob blwyddyn, ac mae llawer mwy yn cael anafiadau, weithiau sy'n newid eu bywydau, wrth oroesi boddi.

Dywed Lee Heard, Cyfarwyddwr Elusennol y Gymdeithas Frenhinol er Achub Bywydau (RLSS):

"Ar gyfartaledd bob blwyddyn mae 47 o bobl yn colli eu bywydau yng Nghymru trwy foddi. I raddau helaeth, gellir atal ac osgoi'r achosion hyn rhag digwydd, os bydd y camau cywir mewn bodolaeth.  Mae addysg trwy ddysgu am ddiogelwch, hyfforddiant a rhaglenni dysgu nofio'n ffactor hollbwysig er mwyn helpu unrhyw un i feithrin y sgiliau hanfodol i fod yn hyderus ac yn gymwys o gwmpas dŵr.

Yn ogystal, dylai fod pob person ifanc yn hyderus i ddarganfod harddwch Cymru a chymryd rhan yn yr amrywiaeth eang o weithgareddau dŵr sydd ar gael yn ein gwlad.  Trwy ddysgu nofio'n gynnar mewn bywyd, bydd ganddynt y sylfeini i gael mynediad at lwyth o gyfleoedd a chadw ein pobl ifanc addawol yn ddiogel."

Cymerwch gip ar www.freedom-leisure.co.uk i ofyn am wersi nofio yn eich canolfan hamdden lleol, cymunedol chi.