Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Prif Weithredwr Dros Dro

Image of County Hall in Llandrindod

03 Ebrill 2023

Image of County Hall in Llandrindod
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi bod Prif Weithredwr dros dro wedi'i benodi oherwydd bod Dr Caroline Turner, y Prif Weithredwr presennol, yn absennol oherwydd salwch.

Bydd cyn Brif Weithredwr Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Jack Straw OBE, yn dechrau yn y  swydd Prif Weithredwr Dros Dro ar 10 Ebrill.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys, "Mae Jack yn swyddog gweithredol lleol profiadol iawn sy'n adnabyddus i Bowys gan iddo gadeirio Bwrdd Gwella a Sicrwydd y cyngor yn y gorffennol.

"Rydym yn edrych ymlaen at ei groesawu yn ôl i Bowys ac yn y cyfamser dymunwn y gorau i Caroline a gwellhad buan iddi."

Wrth sôn am ei benodiad dywedodd Jack, "Rwy'n croesawu'r cyfle i weithio eto gyda'r Cynghorwyr a'r Swyddogion ym Mhowys a byddaf yn parhau â'r ffocws ar gynnal a gwella'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae'r cyngor a'i bartneriaid yn gyfrifol amdanynt."

Mae gan Jack dros 40 mlynedd o brofiad yn Llywodraeth leol a'r GIG, gan gynnwys Prif Weithredwr o Fwrdd Iechyd Abertawe, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, a Phrif Weithredwr Cyngor Dinas a Sir Abertawe.