Sioe deithiol magu plant yn gadarnhaol a adrefnwyd i ymweld â'r Drenewydd
13 Ebrill 2023
Fel ran o'r cymorth parhaus i rieni, cynhalwyd sioeau deithiol Magu plant. Rhowch amser iddo ledled Cymru ym mis Mawrth. Oherwydd yr eira trwm yn y Drenewydd ar 9 Mawrth a rwystrodd y sioe deithiol rhag mynd yn ei blaen, mae'r sioe deithiol wedi'i haildrefnu a bydd yn ymweld â Tesco Y Drenewydd ar ddydd Iau 20 Ebrill o 10am tan 1pm.
Nid yw magu plant bob amser yn rhwydd. Mae ymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo Llywodraeth Cymru eisiau helpu trwy roi cymorth, cyngor a gwybodaeth am fagu plant yn gadarnhaol i rieni â phlant hyd at 18 oed. Bydd y sioeau teithiol yn cynnig sesiynau galw heibio anffurfiol i'r cyhoedd mewn archfarchnadoedd, gan roi cyngor ymarferol ar dechnegau magu plant yn gadarnhaol a chyfle i ddysgu mwy am y gyfraith newydd ar gosbi corfforol.
Bydd cynrychiolwyr o wasanaethau cymorth i deuluoedd a magu plant awdurdodau lleol a Magu plant: Rhowch amser iddo wrth law i siarad am bob agwedd ar fagu plant.
Dywedodd Sue Layton, Cadeirydd y Rhwydwaith Arweinwyr Strategol Teuluoedd a Magu Plant Cenedlaethol, sy'n cynorthwyo ymarferwyr i ddarparu gwasanaethau cymorth i deuluoedd/magu plant o ansawdd da: "Gan fod y gyfraith bellach mewn grym yng Nghymru, dyma'r adeg berffaith i gael gwybod am ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant. Mae magu plant yn rhoi llawer o foddhad, ond mae'n gallu bod yn heriol weithiau hefyd!
"Os na allwch ddod, mae'r wefan Magu plant: rhowch amser iddo yn cynnwys llawer o wybodaeth ac adnoddau i helpu a chefnogi rhieni, neu cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn uniongyrchol i gael gwybod pa gymorth magu plant sydd ar gael yn lleol."
Dywedodd Cynghorydd Susan McNicholas, Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol Cyngor Sir Powys: "Rydym yn falch iawn y bydd y sioe deithiol yn ymweld a Powys. Edrychwn ymlaen at siarad â theuluoedd am yr ymgyrch Magu plant: Rhowch amser iddo a'r hyn y mae'n ei gynnig. Rydym eisiau helpu i rannu ein gwybodaeth ac edrychwn ymlaen at ddod i'r sioe deithiol yn Y Drenewydd i gyfarfod â rhieni a phlant wyneb yn wyneb ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt."