Adolygiad Hamdden - Diweddariad
17 Ebrill 2023
Mae gan y cyngor 14 o gyfleusterau hamdden gan gynnwys 12 pwll nofio sy'n cael eu rheoli ar hyn o bryd gan gwmni nid-er-elw Freedom Leisure fel rhan o gontract 15 mlynedd a ddechreuwyd ar 1 Gorffennaf 2015.
Dywedodd y Cynghorydd David Selby, yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae'r cyngor sir yn cynnal adolygiad trylwyr o'r cyfleusterau hamdden ledled y sir er mwyn creu model cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod gwasanaethau hamdden yn wynebu pwysau na welwyd mo'i debyg o'r blaen o ganlyniad i'r argyfwng costau byw a'r cynnydd trychinebus mewn prisiau ynni sy'n arbennig o niweidiol i ddefnyddwyr sydd â defnydd uchel o ynni fel pyllau nofio.
"Nid yw'r model gwasanaeth presennol yn gynaliadwy ac mae angen newid i'w wneud yn fforddiadwy ac yn addas i'r diben ar gyfer pobl Powys. Gan weithio gyda'n partner, rydym yn cynnal adolygiad trylwyr o'r holl gyfleusterau, gan ystyried ystod eang o ddata, gan gynnwys cyflwr adeiladau, cyfleusterau a ddarperir, cost, defnydd cyhoeddus a rhanddeiliaid a lefelau buddsoddi sydd eu hangen, er mwyn ystyried opsiynau ar gyfer y dyfodol.
"Bydd yr adolygiad yn un trylwyr ac ni fydd yn cael ei ruthro a bydd yn casglu barn pawb sydd â diddordeb, pobl Powys, ysgolion, sefydliadau cymunedol a chwaraeon, partneriaid gwasanaethau cyhoeddus a staff. Mae cyfleusterau hamdden yn werthfawr i ni gyd ac mae angen i ni eu rhoi ar seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol a bydd hynny'n golygu cynnal ymgysylltu gyda phawb," ychwanegodd.
"Rydym wedi sefydlu tîm adolygu ac wedi dynodi swyddog arweiniol i symud ymlaen â'r gwaith pwysig hwn. Byddwn yn darparu bwletinau adolygu rheolaidd wrth symud ymlaen ac edrychwn ymlaen at ddatblygu'r gwaith gyda'r holl randdeiliaid."