Toglo gwelededd dewislen symudol

Trydydd achos o ffliw adar yn ardal gogledd Powys

Chickens

19 Ebrill 2023

Mae'r cyngor sir wedi dweud bod trydydd achos o feirws Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N1, a elwir fel arall yn ffliw adar, wedi'i gadarnhau ar safle ger y Drenewydd.

Mae Parth Diogelu 3 cilomedr (Ffliw Adar), neu PZ (AI), wedi cael ei datgan o amgylch y fangre heintiedig, i gyfyngu'r risg o ledaenu'r clefyd.

O fewn y parth hwn, cyfyngir symudiadau adar a chyfyngir ar gynulliadau a rhaid datgan pob daliad sy'n cadw adar. Mae'n ofynnol i berchnogion adar o fewn y Parth Diogelu 3km a'r Parth Gwyliadwriaeth 10km ehangach (SZ) gydymffurfio â'r mesurau a nodir yn yr Atodiadau i'r Gorchymyn Datganiad.  Gellir gweld y manylion yma: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2023-04/datganiad-parth-gwarchod-a-pharth-gwyliadwriaeth-ffliw-adar.pdf

Atgoffir perchnogion adar y tu allan i'r PZ a'r SZ er fod y mesurau gorfodol o gadw dofednod ac adar caeth dan do o 00:01 ar 18 Ebrill 2023, y bydd Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) yn parhau mewn grym ledled Cymru hyd nes y clywir yn wahanol. 

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bawb sy'n cadw adar yng Nghymru (p'un a oes ganddynt adar anwes, haid fasnachol neu iard gefn) barhau i gadw at y mesurau bioddiogelwch gorfodol, a chwblhau'r rhestr wirio hunan-asesu bioddiogelwch gorfodol sydd i'w gweld yma: https://www.llyw.cymru/ffliw-adar-y-diweddaraf

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Mae'n hanfodol bod gan y rheiny sy'n cadw adar y lefelau uchaf o bioddiogelwch yn eu lle, fel y gallwn atal y clefyd heintus iawn hwn rhag lledaenu i fwy o heidiau.

"Mae'n bwysig hefyd nad yw pobl yn cyffwrdd ag neu'n casglu unrhyw adar sâl neu adar sydd wedi marw er mwyn osgoi lledu'r feirws.

"Y cyngor o safbwynt iechyd cyhoeddus yw taw risg isel iawn sydd i iechyd bodau dynol a chyngor cyrff safonau bwyd yw bod ffliw adar yn peri risg isel iawn o safbwynt bwyd ar gyfer defnyddwyr y DU."

Cyfrifoldebau pobl sy'n cadw adar:

  • Dylai unrhyw un sy'n cadw adar fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r haint megis cynnydd yn nifer yr adar sy'n marw, trafferthion anadlu, a gostyngiad yn y dŵr sy'n cael ei yfed, neu nifer yr wyau sy'n cael eu dodwy.
  • Dylech gysylltu â'r milfeddyg yn y lle cyntaf os bydd eich adar yn sâl.
  • Os ydych chi neu'ch milfeddyg yn amau y gall ffliw adar fod yn achos y salwch ymhlith eich adar, mae'n rhaid ichi, yn ôl y gyfraith, hysbysu'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Bydd hyn yn arwain at ymchwiliad i'r haint gan filfeddygon AIAPh.

Mae'n rhaid ichi arfer mesurau bioddiogelwch llym er mwyn atal i unrhyw ddeunyddiau, offer, cerbydau, dillad, bwyd neu ddeunydd gwely a all fod yn heintus oherwydd cysylltiad gydag adar gwyllt, ddod i'ch safle.

Os byddwch yn dod ar draws adar dŵr sydd wedi marw (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu unrhyw adar gwyllt eraill sydd wedi marw, megis gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech hysbysu llinell gymorth Defra drwy ffonio 03459 335577.

I gael y newyddion diweddaraf ar y Ffliw Adar, ewch i  https://www.llyw.cymru/ffliw-adar-y-diweddaraf

Gallwch wirio i weld a yw eich safle'n dod o fewn naill ai'r Parth Amddiffyn neu'r Parth Gwyliadwriaeth ar Fap Rhyngweithiol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar gyfer y Ffliw: https://defra.maps.arcgis.com/apps/webappviewer/index.html?id=8cb1883eda5547c6b91b5d5e6aeba90d

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu