Toglo gwelededd dewislen symudol

Byddwch yn barod am 20mya

Image promoting the new 20mph speed limit

24 Ebrill 2023

Image promoting the new 20mph speed limit
Bydd gwaith paratoi ffyrdd Powys, ar gyfer y terfyn cyflymder diofyn o 20mya sydd ar y gweill, yn dechrau'r wythnos hon (wythnos yn dechrau 24 Ebrill 2023).

Ar 17 Medi, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru. Yn gyffredinol, mae ffyrdd cyfyngedig yn cynnwys y rheini ble mae goleuadau stryd wedi eu gosod ddim mwy na 200 llath o'i gilydd, ac fel arfer wedi eu lleoli mewn ardaloedd preswyl a phrysur ble mae gweithgaredd uchel gan gerddwyr.

Cymru fydd y genedl gyntaf yn y DU i ostwng terfyn cyflymder yn dilyn y symudiad hwn, gan ddilyn ôl troed gwledydd Ewrop fel Sbaen ble mae 30km/h (18.5mya) eisoes mewn lle.

Mae tystiolaeth yn dangos fod gostwng y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya ar y ffyrdd hyn yn arwain at nifer o fanteision gan gynnwys lleihau nifer y damweiniau ac anafiadau difrifol, annog rhagor o bobl i gerdded a beicio a gwella iechyd a llesiant.

Wrth baratoi am y newidiadau bydd y cyngor yn gweithio i gael gwared ar peth o'r marciau terfyn cyflymder cyfredol, neu gylchigau, ar ffyrdd y sir. Caiff newidiadau i arwyddion eu rhaglennu hefyd, yn barod am y dyddiad cychwyn sef 17 Medi. Bydd cylchigau newydd a newidiadau eraill i arwyddion yn parhau i gael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad gweithredu.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cam beiddgar wrth weithredu terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya ledled y sir," esbonia'r Cynghorydd Sir Jackie Charlton, Aelod Cabinet Dros Bowys Wyrddach, "ond bydd y manteision y gallwn obeithio eu gweld ynghylch cyflymder gyrru arafach, gwell diogelwch a chynnydd o ran lefelau beicio a cherdded, yn bellgyrhaeddol o'u cymharu â'r amharodrwydd i newid.

"Mae canfyddiadau sy'n dilyn gweithredu 20mya eraill yn y DU a threialon yma yng Nghymru, yn dangos fod hyd yn oed gostyngiad bach i gyfartaledd cyflymder traffig ble mae pobl yn byw ac yn gweithio yn gallu arwain at ostyngiad sylweddol mewn damweiniau ac anafiadau difrifol gan helpu i wneud cymunedau'n fwy diogel.

"Bydd y terfyn amser newydd o 20mya hefyd yn cydweddu â'n rhwydwaith cynyddol o lwybrau teithio llesol ledled y sir, ble yr ydym yn annog pobl i wneud teithiau byr a lleol ar droed neu feic yn hytrach na mewn car. Y gobaith yw y bydd rhagor o deuluoedd Powys yn cael yr hyder i ddewis cerdded neu feicio i'r ysgol ac adref gan wybod bydd y ffyrdd yn fwy diogel.

"Er bod mis Medi rai misoedd i ffwrdd, mi fydd yma'n ddigon buan, felly bydd gwaith paratoi'r newid yn dechrau o ddifri ledled y sir cyn gynted ag sy'n bosibl i wneud yn siŵr ein bod ni'n barod am 20mya!

Bydd manylion pellach am y terfyn cyflymder diofyn o 20mya a pha ffyrdd fydd yn newid ar gael cyn bo hir.