Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Disgyblion a staff yn symud i adeilad newydd Ysgol Gymraeg Y Trallwng yr wythnos nesaf

Image of Ysgol Gymraeg Y Trallwng

26 Ebrill 2023

Image of Ysgol Gymraeg Y Trallwng
Mae'r cyngor sir wedi dweud y bydd adeilad newydd ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg yng ngogledd Powys yn agor ei drysau i ddisgyblion a staff am y tro cyntaf yr wythnos nesaf.

Mae'r cyffyrddiadau olaf yn cael eu rhoi ar Ysgol Gymraeg newydd Y Trallwng, fydd â lle i 150 o blant.  Bydd disgyblion a staff yn symud i'w hadeilad ysgol newydd ddydd Mawrth, 2 Mai.

Cafodd yr adeilad newydd, a fydd yn cynnwys blynyddoedd cynnar a chyfleusterau cymunedol, ei adeiladu gan Gyngor Sir Powys a'r contractwr Wynne Construction.

Mae'r cynllun arloesol ar gyfer yr ysgol newydd yn cyfuno'r hen a'r newydd a bydd yn darparu cyfleusterau gwych i ddisgyblion Ysgol Gymraeg y Trallwng a chymuned Y Trallwng tra ar yr un pryd yn cynnal presenoldeb eiconig Ysgol Maesydre.

Cafodd yr hen adeilad rhestredig Gradd II ei adnewyddu er mwyn cynnwys ardaloedd staff, blynyddoedd cynnar a chyfleusterau cymunedol ynghyd â choridor cyswllt drwodd i'r adeilad newydd, sy'n cynnwys neuadd yr ysgol ac ystafelloedd dosbarth. Yr adeilad hwn fydd prosiect hybrid cyntaf Passivhaus yn y DU, sy'n golygu ei fod yn ynni-effeithlon iawn.

Ers dychwelyd ar ôl gwyliau'r Pasg, mae disgyblion a staff wedi bod yn paratoi eu hystafelloedd dosbarth yn barod ar gyfer addysgu fel rhan o'r trefniadau trosglwyddo o'u hadeilad presennol i'r adeilad newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rwyf wrth fy modd y bydd yr adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn agor ei drysau i ddisgyblion a staff am y tro cyntaf yr wythnos nesaf.

"Rydym wedi bod yn aros yn hir am hyn ac rwy'n siŵr bod cymuned yr ysgol yr un mor falch o'i hagor, gan nodi cychwyn pennod newydd i Ysgol Gymraeg Y Trallwng.

"Bydd y datblygiad gwych hwn, a fydd yn un o adeiladau mwyaf ynni effeithlon y DU gan gyfrannu at leihau allyriadau carbon y sir, yn darparu amgylchedd i ddisgyblion a staff addysgu gyrraedd eu potensial wrth ddarparu cyfleusterau cymunedol pwysig.

"Rwy'n dymuno'r gorau i bawb yn yr ysgol gyda'r symud gan obeithio y byddant yn mwynhau eu hamgylchoedd newydd."

Dywedodd Angharad Davies, Pennaeth Ysgol Gymraeg Y Trallwng: "Am siwrne! Ein gweledigaeth yw dathlu 'Does neb yn berffaith, mae pawb yn wahanol - mae'r ffordd yn un droellog i bawb'.

"Mae ein cartref newydd yn adlewyrchiad pur ohonom ni fel ysgol: traddodiadol a chyfoes, ffrwydriad o liw ag gwyrddni o'n cwympas.

"Bydd ein cartref newydd yn ein galluogi i sicrhau'r cyfloedd gorau posib i'n plant, ble fydd yr iaith Gymraeg yn ffynnu a'r gymuned yn rhan annatod o bopeth Ysgol Gymraeg Y Trallwng."