Cyhoeddi pecyn tendro ar gyfer datblygiad tai cyngor
27 Ebrill 2023
Mae Tîm Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Powys am benodi prif gontractwr i adeiladu'r tai ynni effeithlon ar safle hen Dŷ Robert Owen yn y Drenewydd.
Y cyngor fydd yn berchen ar y tai newydd ac yn eu rheoli, a byddant yn cael eu dyrannu i ymgeiswyr sydd ar Gofrestr Tai Cyffredin Powys.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Un o flaenoriaethau'r Cabinet yw mynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y sir a dim ond drwy adeiladu tai cyngor o ansawdd uchel y gellir cyflawni hyn.
"Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi cymeradwyo cynllun uchelgeisiol i adeiladu mwy na 310 o gartrefi cyngor newydd fel rhan o becyn buddsoddi sy'n werth bron i £79m.
"Nid yn unig yw'r datblygiad hwn yn y Drenewydd yn rhan o'n cynlluniau adeiladu tai uchelgeisiol, ond y mae hefyd yn brosiect pwysig i'r cyngor os yw am fynd i'r afael â'r argyfwng tai.
"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a fydd yn diwallu anghenion y gymuned leol a bydd y contractwr llwyddiannus yn ein helpu ni i wireddu un o'n blaenoriaethu pwysig."