Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Diwrnod Astudio Iechyd Gofal Parhaus

Darperir gan Rhiannon Mainwaring

Diwrnod Astudio Iechyd Gofal Parhaus -  Diwrnod Llawn o Hyfforddiant Rhithwir 09.15 ar gyfer cofrestru. Diwrnod astudio 09.30 i 16.30

  • Diweddariad ar sefyllfa fframwaith Cymru a Dealltwriaeth o'r Fframwaith Cenedlaethol Newydd a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2022
  • Disgrifio a nodi diffiniadau o "angen iechyd sylfaenol" trwy ddeall y sail ddeddfwriaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Gallu cymhwyso'r ddeddfwriaeth berthnasol yn ymarferol ac yn hyderus gydag arweiniad i arfer da mewn achosion GIP.
  • Gallu cwblhau rhestr wirio GIP, offeryn cefnogi penderfyniadau ac offeryn llwybr carlam i arfer gorau ac mewn ffordd agored a thryloyw a disgrifio'r broses i sicrhau penderfyniadau rhesymegol clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau.
  • Cymhwyso gofynion statudol Deddf Galluedd Meddyliol 2005 ynghylch galluedd a chaniatâd, LPA ar gyfer Iechyd a Lles, Budd Gorau a rôl y teulu a Deall cydymffurfiaeth â gofyniad statudol i ddod o hyd i eiriolwr naill ai o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 neu'r Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
  • Nodi a disgrifio'r broses ar gyfer herio penderfyniad anghywir GIP yn gywir

Dyddiadau

  • 9 Hydref 2024, 9.15am - 4.30pm

 

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu