Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS)

Cwestiynau Cyffredin

Rhagymadrodd

Mae'r Cyngor wedi paratoi'r Cwestiynau Cyffredin hyn i helpu i ymateb i ohebiaeth sy'n dod i law mewn perthynas â chynigion o fewn y sir ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Bydd y Cwestiynau Cyffredin yn cael eu hadolygu a'u diweddaru yn ôl yr angen.

Beth yw Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC)?

Mae Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) yn fath o gais cynllunio ar gyfer prosiect seilwaith mawr o bwysigrwydd cenedlaethol, er enghraifft, fferm wynt, gorsaf bŵer neu gronfa ddŵr.

Diffinnir prosiectau Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol Seilwaith gan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chaniatadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (fel y'u diwygiwyd).

Sut y penderfynir ar geisiadau Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC)?

Gwneir penderfyniadau ar geisiadau DAC gan Weinidogion Cymru yn hytrach na Chyngor Sir Powys (yr Awdurdod Cynllunio Lleol).

Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) (yr Arolygiaeth Gynllunio gynt) sy'n ymdrin â cheisiadau DAC ar ran Gweinidogion Cymru.

Mae DAC yn wahanol i gais cynllunio arferol yn y ffordd y caiff ei benderfynu. Yn lle bod eich Awdurdod Cynllunio Lleol yn gwneud y penderfyniad, mae Arolygydd yn archwilio'r cais ac yn gwneud argymhelliad i Weinidog Cymru yn seiliedig ar rinweddau cynllunio a blaenoriaethau cenedlaethol. Yna bydd y Gweinidog yn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd ai peidio.

Rhaid i benderfyniadau ar geisiadau DAC fod yn seiliedig ar bolisïau Cynlluniau Datblygu ac ystyriaethau a pholisïau cynllunio perthnasol eraill.

Y Cynlluniau Datblygu sy'n berthnasol i ardal awdurdod cynllunio lleol Powys yw:

Ble alla' i weld ceisiadau DAC?

Gwneir ceisiadau am gynigion DAC i PEDW sy'n cynnal gwefan Porth DAC:

Chwilio am achos - Gwaith Achos Cynllunio (llyw.cymru)

Mae hon yn cynnwys gwybodaeth am:

  • achosion DAC arfaethedig
  • achosion byw
  • achosion sydd eisoes wedi'u pennu

Cam Cyn Ymgeisio - ffyrdd o gymryd rhan yn y broses DAC?

Wrth baratoi cais DAC, mae PEDW yn annog ymgeiswyr i ymgysylltu'n gynnar, megis drwy gynnal cyfarfodydd â chymunedau lleol i gyflwyno eu cynlluniau i'w trafod ac ymdrin ag unrhyw faterion sy'n codi.  Yn aml hefyd mae gan ymgeiswyr eu gwefannau eu hunain ar gyfer eu prosiectau. Mae'r ymgysylltu cynnar hwn yn helpu i lywio datblygiad y cais.

Cyn cyflwyno cais DAC llawn i PEDW, mae'n ofynnol i'r ymgeisydd roi cyhoeddusrwydd ac ymgynghori ar y cais arfaethedig am gyfnod o chwe wythnos o leiaf. Gelwir hyn yn Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC) a darperir arweiniad pellach am hyn gan PEDW:

https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-08/canllawiau-datblygiadau-o-arwyddocad-cenedlaethol-y-cam-cyn-ymgeisio.pdf

Cam ymgeisio - Sut mae gwneud sylwadau i PEDW ar gais DAC?

Mae PEDW yn cynghori, os hoffech gyflwyno sylw, y dylech edrych ar y dudalen gwaith achos perthnasol ar gyfer y prosiect dan sylw i weld a oes ymgynghoriad byw yn digwydd. Mae unrhyw sylwadau a gyflwynir y tu allan i ffenestr ymgynghori yn debygol o gael eu dychwelyd yn hwyr neu'n ddigymell. Os oes ymgynghoriad byw, cyflwynwch eich sylw i PEDW drwy e-bost, gan ddyfynnu teitl y prosiect a'r cyfeirnod newydd yn llinell y testun.

Beth yw rôl Cyngor Sir Powys?

Mae'r Awdurdod yn ymwneud â'r broses DAC mewn amrywiol ffyrdd.

Yn y cam cyn ymgeisio, mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghorai arbenigol a gall roi sylwadau ar y cynnig a chwmpas Asesiad Effaith Amgylcheddol. Mae rhai datblygwyr hefyd yn gofyn am gyngor cyn ymgeisio gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol.

Yn y cam ymgeisio, mae'n ofyniad ffurfiol yn y broses DAC i Gyngor Sir Powys, yn rhinwedd ei swydd fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl), i gyflwyno Adroddiad Effaith Lleol (LIR) i PEDW o fewn 5 wythnos i dderbyn cais gan PEDW. Mae'r Adroddiad Effaith Lleol yn rhoi manylion am effaith debygol y datblygiad arfaethedig ar ardal yr awdurdod.

Mae darpariaeth hefyd yn y rheoliadau i AauCLl eraill neu Gynghorau Cymuned a Thref gyflwyno Adroddiad Effaith Lleol  Gwirfoddol.

Rhaid i'r Adroddiad Effaith Lleol roi golwg ffeithiol, gwrthrychol o effeithiau'r datblygiad arfaethedig ar yr ardal dan sylw. Dylid cyflwyno'r effeithiau yn nhermau eu heffeithiau cadarnhaol, niwtral a negyddol.

Darperir canllawiau ynghylch Adroddiad Effaith Lleol gan PEDW:

https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-08/canllawiau-datblygiadau-o-arwyddocad-cenedlaethol-adroddiadau-ar-yr-effaith-leol.pdf

Ble gallaf gael arweiniad pellach am y broses DAC?

Cyhoeddir canllawiau pellach ar wefan PEDW.

Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol (DAC): canllawiau | LLYW.CYMRU

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu