Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Cymry Brenhinol i orymdeithio drwy'r Gelli Gandryll

Image of the Band of The Royal Welsh

12 Mai 2023

Image of the Band of The Royal Welsh
Bydd catrawd y fyddin yn gorymdeithio drwy dref ym Mhowys yn ddiweddarach y mis hwn fel rhan o barêd rhyddid.

Bydd Y Cymry Brenhinol, sef catrawd hynaf a mwyaf addurnedig Cymru yn gorymdeithio drwy'r Gelli Gandryll ddydd Sadwrn, 20 Mai i ddathlu ail gadarnhau Rhyddid y Sir iddynt.

Bydd y parêd, a fydd hefyd yn cynnwys band Milwrol y Cymry Brenhinol, hen filwyr a chadetiaid, yn ogystal â'r Cymry Brenhinol yn gorymdeithio o faes parcio Oxford Road i diroedd Castell y Gelli. Yno, bydd gwasanaeth byr yn digwydd, a fydd yn cynnwys caniatáu'r gatrawd i ymarfer rhyddid y sir.

Bydd Y Cymry Brenhinol hefyd yn pasio heibio Cofeb y dref i dderbyn saliwt wrth i'r parêd basio heibio.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, Cadeirydd Cyngor Sir Powys: "Bydd croesawu'r Cymry Brenhinol i'r Gelli Gandryll ac i Bowys ar gyfer eu gorymdaith ail gadarnhau yn anrhydedd ac rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r digwyddiad hwn. Rwy'n siŵr y bydd y cyhoedd yn rhoi croeso mawr iddyn nhw." 

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Mae'r parêd rhyddid yn dyst i'r cysylltiadau cryf a hirhoedlog rhwng dinasyddion Powys a chymuned ein lluoedd arfog.  Y mae hefyd yn gwasanaethu i'n hatgoffa o'r aberth mae aelodau'n lluoedd arfog wedi ei chyflawni - a'u teuluoedd - er budd ein hawliau a'n rhyddid.

"Edrychaf ymlaen at ymuno â'r gymuned leol, a phobl o bob rhan o Bowys, i gofio am hyn wrth i'r Cymry Brenhinol orymdeithio drwy'r Gelli Gandryll."

Er mwyn galluogi'r parêd i fynd rhagddo'n ddiogel, bydd rhai ffyrdd oddi fewn i ganol y dref yn cau o 8am tan tua 12:20pm. Bydd llwybrau eraill a fydd angen eu cau ar gyfer yr orymdaith yn cau am gyfnod byr tra bo'r orymdaith yn teithio ar hyd y ffyrdd hynny.

Bydd y ffyrdd ar gau yn Heol y Castell (o Gyffordd Ffordd Belmont), Stryd y Farchnad, Lion Street yn arwain i Bell Bank o 8am tan 12:20pm.

Bydd ffyrdd yn cau am gyfnod byr hefyd rhwng 10.55-11am ar hyd Oxford Road o faes parcio Castell y Gelli a hefyd rhwng 12-12:20pm o Oxford Road (Castell y Gelli) i Heol y Castell ac o Bell Bank - maes parcio Oxford Road.

Dyma amserlen gyflawn y digwyddiad:

  • 10.45am: Y Cymry Brenhinol yn cyrraedd ym maes parcio Oxford Road
  • 11am: Y Cymry Brenhinol yn gorymdeithio i'r maes parêd yng Nghastell y Gelli
  • 11.15am: Set y Parêd 
  • 11.20am: Archwiliad
  • 11.35am: Pwysigion yn annerch y Parêd a chyfnewid rhoddion
  • 11.45am: Clerigwyr y Dref yn arwain gwasanaeth byr
  • 12pm: Y Parêd yn symud i ffwrdd
  • 12.20pm: Y Parêd wedi cyrraedd man gorffen