Galw ar gyflogwyr Powys i gefnogi gofalwyr maeth
Wrth i deuluoedd ledled y wlad geisio ymdopi â'r argyfwng costau byw, mae Maethu Cymru Powys yn galw ar bob cyflogwr yn y sir i ddyfod yn fwy 'cyfeillgar i faethu', yn y gobaith o fynd i'r afael â'r camganfyddiad na allwch barhau i weithio os fyddwch yn dyfod yn ofalwr maeth.
Bob dydd yng Nghymru mae yna bump o blant sydd mewn angen am ofal maeth.
Yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth TM hwn (15-28 Mai), mae'r Rhwydwaith Maethu, prif elusen maethu'r DU, a Chyngor Sir Powys yn galw ar y gymuned fusnes ehangach i roi eu cefnogaeth a'i gwneud hi'n haws i'w gweithwyr gyfuno maethu a gweithio.
Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae bron i 40% o weithwyr maethu yn cyfuno maethu â gwaith arall ac mae eu polisi 'cyfeillgar i faethu' yn annog cyflogwyr i ddarparu hyblygrwydd ac amser rhydd i weithwyr sy'n ofalwyr maeth arfaethedig ac sy'n mynd drwy'r broses ymgeisio.
Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys Dros Genedlaethau'r Dyfodol:
"Mae estyn allan i gyflogwyr lleol i fod yn gyfeillgar i faethu yn un o'r nifer o bethau yr ydym yn eu gwneud i gefnogi ein gofalwyr maeth ym Mhowys.
"Gwyddom, pan fydd plant yn aros mewn cysylltiad, aros yn lleol a chael rhywun i aros gyda nhw yn hir dymor, ein bod ni'n gweld gwell canlyniadau. Felly os all cyflogwyr Powys gefnogi eu gweithwyr i ddyfod yn ofalwyr maeth gallwn helpu rhagor o blant i aros mewn cysylltiad â'u gwreiddiau ac yn y pen draw eu cefnogi tuag at ddyfodol gwell."
Bydd Tîm Maethu Powys mewn amrywiol leoliadau ledled y sir yn ystod Pythefnos Gofal Maeth.
Dydd Iau 18 Mai: Caffi'r Ardd Berlysiau, Llandrindod (10.30am - 12.30)
Dydd Sadwrn 20 a Dydd Sul 21 Mai: Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Maes y Sioe Frenhinol
Dydd Mawrth 23 Mai: Bear Lanes, Y Drenewydd (9am - 1.30pm)
Dydd Mercher 24 Mai: Co-op, Machynlleth (10am -3pm)
Dydd Iau 25 Mai: Tesco, Ystradgynlais (10 am - 4 pm)
Dydd Gwener 26 Mai: Tesco, Llandrindod Wells (10am - 4pm)
Dydd Iau 1 Mehefin: Costa Coffee, Y Trallwng (11am - 1pm)
Dydd Gwener 2 Mehefin: Costa Coffee, Aberhonddu (11am - 1pm)
Felly dewch draw i gwrdd â'r tîm, gofyn cwestiynau a darganfod rhagor am rôl gofalwyr maeth a gwahanol gyfleoedd i faethu. Os nad yw'r dyddiadau hyn yn gyfleus gallwch ffonio tîm Maethu Cymru ar 080022 30 627, e-bost fostering@powys.gov.uk neu ewch i www.powys.maethucymru.llyw.cymru
I ddyfod yn gyflogwr sy'n gyfeillgar i faethu, cysylltwch â'r Rhwydwaith Maethu fosteringfriendly@fostering.net i ddarganfod rhagor.