Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwasanaethau Oedolion yn symud allan o barhad busnes

Image of two people holding hands

15 Mai 2023

Image of two people holding hands
Mae un o wasanaethau Cyngor Sir Powys wedi symud allan o barhad busnes, bron pum mis ar ôl gweithredu'r cam yma fel mesur ataliol.

Ers dydd Mercher 10fed Mai, mae Gwasanaethau Oedolion y cyngor allan o barhad busnes, yn dilyn adolygiad gan uwch arweinyddion.

Yn Rhagfyr 2022, gweithredwyd cynllun parhad busnes y gwasanaeth, wrth i alw uchel ar draws y sector iechyd a gofal, ar y cyd â phroblemau recriwtio a chadw staff a lefelau salwch cynyddol mewn meysydd allweddol, effeithio ar gyflenwi gwasanaethau.

O ganlyniad, roedd y gwasanaeth wedi tynnu nôl gwaith anghritigol er mwyn gallu defnyddio staff i fodloni gweithgareddau critigol o safbwynt busnes mewn proses pontio llyfn a gynlluniwyd.

Dywed Nina Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Dros dro'r Cyngor: "Nid peth hawdd oedd penderfynu gweithredu cynllun parhad busnes y Gwasanaethau Oedolion, ac roedd yn angenrheidiol oherwydd yr heriau oedd yn effeithio ar gyflenwi'r gwasanaeth ar y pryd. Fodd bynnag, nid yw'n briodol aros mewn parhad busnes am gyfnod amhenodol.

"Er inni symud allan o barhad busnes, cydnabyddir bod pwysau a heriau sylweddol yn parhau ar draws y gwasanaeth. Rydym wrthi'n llunio cynlluniau gweithredu a dargedir gyda staff i fynd i'r afael â'r meysydd hyn."

Os oes gan unrhyw un bryderon am oedolyn, neu os byddwch o'r farn fod unigolyn mewn perygl, neu os nad yw sefyllfa unigolyn yn gynaliadwy, dylid cysylltu â'r cyngor ar unwaith ar 0345 602 7050.

Os oes angen cymorth ymarferol gyda bywyd dyddiol arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod, mae sefydliadau ar gael sy'n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth. Ewch i Cyfarpar ac Addasiadau yn eich Cartref - i chwilio am sefydliadau sy'n gallu cynnig cymorth ichi.

AskSARA (https://powys.livingmadeeasy.org.uk/language) - canllaw hunangymorth ar-lein yw hwn sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth arbenigol ar offer a chynnyrch ar gyfer oedolion hŷn ac anabl.  Trwy ateb cwestiynau amdanoch chi'ch hunan a'ch amgylchfyd, byddwch yn derbyn adroddiad personol am ddim, sy'n rhoi cyngor clir, pwrpasol a luniwyd gan arbenigwyr ar ffyrdd i helpu gyda'ch gweithgareddau dyddiol.

Os hoffech dderbyn gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant -  neu os hoffech wybod sut y gallwch helpu rhywun arall, ewch i wefan Dewis Cymru https://www.dewis.wales/