Toglo gwelededd dewislen symudol

Adolygiad Archwilio Cymru - Gwasanaethau Cynllunio

Image of Audit Wales logo

15 Mai 2023

Image of Audit Wales logo
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud y bydd canlyniadau adolygiad Archwilio Cymru yn cael eu defnyddio i wella gwasanaethau cynllunio'r cyngor. 

Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw (15 Mai), yn dilyn adolygiad o'r gwasanaeth a gynhaliwyd yn 2022 ac mae'n cynnwys cyfres o awgrymiadau i helpu gwella gwasanaethau cynllunio. 

Yn ôl canlyniadau'r adolygiad mae gan Archwilio Cymru bryderon 'am wendidau strategol, gweithredol a diwylliannol sylfaenol gwasanaethau cynllunio'r cyngor' a bod y gwendidau hyn yn atal gallu'r gwasanaeth i 'gefnogi staff ac aelodau yn gyson a chynaliadwy i gyflwyno gwasanaeth effeithiol sy'n helpu'r cyngor i gyflawni ei amcanion corfforaethol'.

Yn dilyn adborth interim, sefydlodd y cyngor fwrdd gwella gwasanaethau ar unwaith i ystyried y canfyddiadau, cynnig ymatebion manwl a rhoi mesurau ar waith i sicrhau eu bod yn cael cyflawni a'u gweithredu gan y gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Rydym yn derbyn canfyddiadau'r adolygiad hwn yn llawn, a hoffwn ddiolch yn bersonol i'r archwilwyr am y ffordd y maen nhw wedi cyflawni'r darn helaeth hwn o waith ac am y ffordd adeiladol iawn y maen nhw wedi cydnabod y pethau yr ydym yn eu gwneud yn dda ac wedi canolbwyntio ar ein helpu i wella'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i ymgeiswyr ac i bobl Powys.

"Mae llawer o Gynghorwyr, Cynghorau Cymuned ac unigolion yn siarad â mi'n gyson am gynllunio, ac rwy'n gwybod o brofiad y gorffennol ei bod hi'n anodd plesio pawb drwy'r amser, ond mae'r archwilwyr wedi helpu i gadarnhau bod gennym le i wella ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i ddefnyddio'r adroddiad hwn i helpu i unioni pethau ac i weithio tuag at gael un o'r gwasanaethau cynllunio mwyaf uchel ei barch yng Nghymru.

"Mae gennym swyddogion rhagorol sy'n gweithio fel rhan o dîm cynllunio ymroddedig a fydd yn cofleidio'r adroddiad yn llawn.  Gan weithio gyda'r bwrdd gwella gwasanaethau rwy'n ei gadeirio, bydd eu hymdrechion hwy yn sicrhau ein bod yn gwella'r gwasanaeth yn gyflym fel y bydd Archwilio Cymru a defnyddwyr gwasanaeth yn gweld gwahaniaeth sylweddol yn ein gwasanaethau cynllunio ymhen 12 mis.

"Mae ein gwasanaeth cynllunio'n rhan holl-bwysig o hwyluso a chyflawni ein huchelgeisiau Cynllun Corfforaethol ar gyfer Powys Gryfach, Tecach, Gwyrddach.

"Mae adroddiad Archwilio Cymru yn ein hatgoffa'n amserol o'r rôl hwyluso cryf a chadarnhaol y mae'n rhaid i gynllunio ei gael mewn cefnogi pobl Powys i gael bywydau iach a chyflawn sy'n economaidd weithgar, gan fyw mewn cartrefi priodol ac yn rhan o drefi a phentrefi cadarn.  Powys sydd â chymunedau cynaliadwy sy'n cefnogi adferiad ein hamgylchedd naturiol a'n treftadaeth ddiwylliannol.

"Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol mae angen y gwaith o reoli datblygu, gan gynnwys gorfodi cynllunio, fod yn fwy pwrpasol, integredig, amserol ac effeithlon.  Mae hefyd angen systemau TGCh i'w cefnogi er mwyn gwneud cynllunio'n llawer mwy agored, hygyrch, ac ymatebol i'r cyhoedd.

"Rwy'n mawr obeithio y bydd y gwelliannau sydd wedi'u cynllunio yn ein cynorthwyo i adennill hyder y cyhoedd yn ein gwasanaeth cynllunio.

"Mae swyddogion eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol i leihau'r ceisiadau cynllunio a gorfodaeth a oedd wedi'u cronni dros gyfnod Covid-19, wrth i swyddogion symud i rolau newydd dros dro, ac mae rolau gorfodi pwrpasol newydd wedi'u creu i roi'r ffocws haeddiannol i'r gwasanaeth.

"Byddaf yn monitro'r sefyllfa yn ofalus ac yn croesawu adborth gan swyddogion a'r cyhoedd wrth i ni barhau i symud y gwasanaeth yn ei flaen."

Gallwch ddod o hyd i adroddiad Archwilio Cymru yma https://www.audit.wales