Digwyddiad ar thema'r amgylchedd a natur i helpu cymunedau gwireddu gweledigaethau gwyrdd
16 Mai 2023
Estynnwyd gwahoddiad i bob cyngor anfon cynrychiolydd i Ddigwyddiad Cynghorau Tref a Chymuned Powys ar thema'r Amgylchedd a Natur yn Y Pafiliwn, Llandrindod ar 14 Mehefin, digwyddiad yn rhad ac am ddim.
Bydd y gynhadledd, a drefnir ar y cyd rhwng Cyngor Sir Powys a Chyngor Tref Llandrindod, yn cynnwys siaradwyr sy'n cynrychioli sefydliadau amgylcheddol, a sesiynau holi ac ateb gyda phaneli o arbenigwyr.
Hefyd bydd gweithdai, stondinau gwybodaeth, a chyfleoedd i rwydweithio.
"Mae pob cyngor tref a chymuned drwy Bowys wedi derbyn gwahoddiad i anfon cynrychiolydd i'r digwyddiad hwn, sydd yn ein barn ni'n gyfle cadarnhaol iddynt ddod ynghyd mewn un lleoliad lle gall pawb rannu syniadau i gefnogi datblygu amgylchedd bywiog," meddai'r Cyng Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Wyrddach.
Ychwanegodd y Cyng Steve Deeks-D'Silva, Arweinydd y Prosiect ar ran Cyngor Tref Llandrindod: "Rydym yn trefnu'r digwyddiad hwn ar y cyd â'n partner Cyngor Sir Powys oherwydd roeddem yn awyddus i gynnig cyfle i gynghorau tref a chymuned eraill drafod unrhyw heriau, problemau neu bryderon sydd ganddynt wrth weithio ar gynlluniau gweithredu argyfyngau hinsawdd a natur.
"Rwyf yn siwr y bydd gan bawb brofiadau gwerthfawr i'w rhannu, ble bynnag y maen nhw ar y daith, boed yn ymwneud â rhwystrau y daethpwyd ar eu traws, neu syniadau gwych sydd wedi eu helpu i fwrw ymlaen â'r cynlluniau."
Y cyflwynydd teledu a radio Chris Jones fydd llywydd y gynhadledd, ac ymhlith y sefydliadau fydd yn bresennol mae: Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Sir Powys a'r Gwasanaeth Bioamrywiaeth a Chefn Gwlad, Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, Un Llais Cymru, Y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cymorth Cynllunio Cymru, Coed Cadw, Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed, On The Verge ac ymgyrch Cadwch Gymru'n Daclus.
Dylai unrhyw gynrychiolydd ar ran cyngor tref neu gymuned sydd eisiau gwybod rhagor am y digwyddiad anfon ebost at: climate@powys.gov.uk
Rydym yn annog unigolion sy'n dod i'r gynhadledd rannu ceir neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus, ble bynnag fo'n bosibl, wrth deithio i ac o'r gynhadledd.