Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Plant ysgol Powys yn dylunio cerdyn llyfrgell newydd

Winning library card design

18 Mai 2023

Winning library card design
Gwnaeth tua 50 o blant a phobl ifanc ledled Powys gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio cerdyn llyfrgell newydd, dywedodd y cyngor sir.

Yn ddiweddar, gwnaeth Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys gynnal cystadleuaeth i blant 14-16 oed Powys i ddylunio cerdyn aelodaeth llyfrgell newydd.

Thema'r gystadleuaeth oedd: 'Beth mae Llyfrgelloedd ym Mhowys yn eu golygu i chi?'  ac fe'i rhannwyd i ddau gategori oedran: ysgol gynradd (4-11 oed), ac ysgol uwchradd (11-16 oed).

  • Enillydd categori ysgolion cynradd - Life Taranenko, Ysgol Dolafon
  • Enillydd categori ysgolion uwchradd - Poppy Thomas, Ysgol Uwchradd Aberhonddu

Derbyniodd yr enillwyr gopi wedi ei arwyddo o 'Dark Tales from the Wood'a 'Secret Tales from Wales' gan Daniel Morden, drwy rodd caredig yr awdur.

Y prif enillydd gyda'i ddyluniad yn cael ei ddefnyddio ar gerdyn llyfrgelloedd newydd Powys, yw ymgais Poppy, yn sgil ei ddyluniad cryf sy'n cyfleu cariad at ddarllen.

"Roedd y gystadleuaeth yn gyfle ffantastig i bobl ifanc Powys ddangos eu dawn greadigol ac arddangos eu talent ledled y sir", dywedodd y Cynghorydd David Selby, beirniad y gystadleuaeth ac Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus.

"Diolch yn fawr iawn i bawb gymerodd ran. Mae'n amlwg fod llawer o feddwl a chreadigrwydd yn rhan o bob ymgais a dderbyniwyd ac roedd y safon mor uchel fel bod beirniadu bron yn amhosibl.

"Edrychaf ymlaen at weld y cerdyn newydd yn cael ei arddangos ledled y sir."